Cwt Carningli

Dyma lety newydd y safle sydd yn cynnwys 5 ystafell ensuite. Mae un o'r ystafelloedd hyn yn cynnwys cyfleusterau anabl.

Cysgu: Hyd at 32 (37 os ydych chi'n defnyddio'r gwlâu dwbl am 2 person).

 

Y Porthdy


Dyma adeilad mwyaf hen y safle a oedd arfer fod yn borthdy Tuduraidd- mae hi wedi bod yn sefyll ar y safle ers 1485! Mae dwy ystafell gwely ar gael yn yr adeilad yma gyda chyfleusterau ymolchi gerllaw.

Cysgu: Hyd at 12.

 

Neuadd y Porthdy


Dyma un o ystafelloedd prydfertha'r safle lle rydych yn teimlo eich bod wedi teithio nôl mewn amser. Mae lle yn y neuadd i hyd at 50 i fwyta, ymlacio a chymryd rhan mewn rhai o weithdai a gweithgareddau'r gwersyll.

 

Y Berllan

Am brofiad ychydig yn wahanol fedrwch aros mewn pabell safari yn ardal glampio'r berllan gan fwynhau golygfa odidog o’r goedwig a Charnedd Meibion Owen o'ch feranda. Mae tair pabell ar gael, dwy sydd yn gallu cysgu 10 yr un ac un babell yn cysgu hyd at 6 gyda chyfleusterau ymolchi ac ardal goginio gyfagos.

Cysgu: Hyd at 26.

 

Cegin Allanol Cymdeithasol

Tu allan i Gwt Carningli mae ardal gysgodol lle mae gegin awyr agored ar gael i’w ddefnyddio sy'n cynnwys popty pitsa, crochan, barbeciw a sinc, gardd perlysiau a lle i fwyta a chymdeithasu.


Llecynnau Lles

O amgylch y safle mae ardaloedd cysgodol naturiol lle gall ymwelwyr ddianc am sgwrs, cyfnod o fyfyrio neu ymlacio a mwynhau’r tawelwch.

 

Opsiynau Arlwyo


Mae’r gegin bwrpasol ar gyfer trefniant arlwyo neu hunanarlwyo. Gellir hefyd manteisio ar yr adnoddau coginio tu allan ar gyfer paratoi bwyd- popty pitsa ac adnoddau cegin alfresco. Os dewisir yr opsiwn arlwyo, gyda thrafodaeth ymlaen llaw, gellid darparu ar gyfer pob math o anghenion dietegol.