Gwersyll Chwaraeon 2024

Chwilio am rywbeth i wneud yn ystod Gwyliau'r Pasg? 8 – 12 oed?
Beth am Gwersyll Chwaraeon yr Urdd, yr Elyrch a’r Sgarlets yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog?

Gwyliau Pasg - Dydd Sul 24ain o Fawrth i Dydd Mercher 27ain o Fawrth! 

Beth yw Gwersyll Chwaraeon?

Cyfle gwych i ddatblygu sgiliau pêl-droed a rygbi o dan ofal hyfforddwyr cymunedol profiadol Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Rygbi’r Sgarlets. Bydd pob plentyn hefyd yn derbyn nwyddau oddi wrth y ddau glwb!

Yn ystod gweddill yr amser bydd cyfle i chi fwynhau gweithgareddau’r Gwersyll gan gynnwys ein gwifren wib, y ganolfan ddringo, sgïo, beiciau modur a mwy!

Darperir llety o safon uchel a hyd at bedwar pryd o fwyd y dydd, gellir darparu bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.


Bydd y cwrs yn rhedeg o amser cinio ar y Dydd Sul hyd at amser cinio ar y Dydd Mercher am bris o £180.

Trefnir bws i gasglu a dychwelyd plant o fannau penodol ar draws Cymru (yn ddibynnol ar niferoedd) am uchafswm o £25 y ddwy ffordd.