glan_llyn_teuluoedd-2750.jpg

Penwythnosau Teulu - Os nad yw y dyddiadau isod yn eich siwtio, be am gael criw o deuluoedd at eu gilydd ac archebu lle yn ein llety hunan-arlwyo newydd sbon 'Glan-llyn Isa' nepell o'r Gwersyll ei hun. Gallwn deilwra penwythnos ar eich cyfer yno. Cysylltwch a glanllynisa@urdd.org neu 01678 541000  fel y gallwn drafod eich gofynion.

Mae gwyliau teulu yn Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn cynnig penwythnos perffaith ar gyfer teuluoedd a phlant o bob oed.  

 

Amserlen Enghreifftiol:

 

Diwrnod 1

Cyrraedd i ginio

Pnawn : Dewis o weithgareddau llyn – canwio / sups / adeiladu rafft

Paned a chacen

Ar ôl te – dewis o nofio neu fowlio 10

Swper

Ar ôl swper – tan a malows melys neu wylio ffilm

 

Diwrnod 2

Brecwast

Bore : Dewis o weithgareddau rhaff – cwrs rhaffau neu wal ddringo

Cinio

Pnawn : Dewis i wneud gweithgareddau gwersyll neu ymuno ar daith gerdded i fyny un o’r bryniau uwchben Llanuwchllyn

Paned a chacen

Saethyddiaeth neu nofio

Swper

Fin Nos: Ymlacio

 

Diwrnod 3

Brecwast

Bore: Dewis o weithgareddau sych neu gwlyb

Cinio

Gandael ar ôl cinio

 

Pris (i gynnwys llety/bwyd/gweithgareddau)

2 noson

Teulu o 2 - £298

Teulu o 3 - £445

Teulu o 4 - £595

Teulu o 5 - £695

Teulu o 6  - £795

Rhestr o'n holl weithgareddau

 glan_llyn_teuluoedd-3157.jpgLlety, Bwyd a Cyfleusterau 

Mae pob ystafell wely yn "en suite", a bydd pob teulu yn aros mewn bloc llety arwahân. Mae lolfa ar gyfer ymlacio a gwylio teledu dyda'r nôs ymhob bloc.

Ni fydd Glan-Llyn yn darparu unrhyw wasanaeth bwyd, ond mae nifer o gwmniau lleol yn darparu gwasanaeth bwyd i fynd (take away), ac mae siopau lleol ar gyfer nwyddau hunan arlwyo. Mae pob bloc llety efo cegin syml at ddefnydd pob teulu yn unigol, gyda cyfleusterau syml fel tecell, oergell, microdon a sinc. 

 

 

Gweld ein Adnoddau

 glan_llyn_teuluoedd-4929.jpgArdal Leol

Saif y Gwersyll ar lan Llyn Tegid ger y Bala rhyw filltir o bentref Llanuwchllyn yng nghysgod yr Aran ac oddi fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer pob math o wyliau a chyrsiau antur.

Pethau i'w Gwneud yn Eryri