Eisiau ailgysylltu â natur a darganfod eich hun?

Dewch i Bentre Ifan i ailwefru'ch meddwl a'ch corff. Eich cartref ar gyfer yr encil hwn fydd canolfan Amgylcheddol a Lles yr Urdd ym Mhentre Ifan sy'n cynnig llety cyfforddus, prydau blasus o fwyd lleol a thymhorol, a mynediad uniongyrchol i lonyddwch natur.

Gweithgareddau

  • Ewch amdani yn yr awyr agored: Teithiau cerdded dan arweiniad trwy goetiroedd hynafol, sesiynau SUP ar yr arfordir a sêrydda o dan flanced o sêr.
  • Meithrinwch eich meddwl a'ch corff: Sesiynau ioga ysgafn, sesiynau meddwlgarwch yn y coed, a gweithdai myfyrdod dan arweiniad.
  • Taniwch eich creadigrwydd: Gweithdai crefft gwledig wedi'u hysbrydoli gan y dirwedd naturiol.
  • Cysylltwch â chi eich hun ac eraill: Rhannu profiadau a mewnwelediadau mewn trafodaethau grŵp cefnogol, cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog i adeiladu tîm, a mwynhau nosweithiau llawn chwerthin o amgylch y tân gwersyll.
  • Darganfyddwch hud Mynyddoedd Preseli: Dysgwch am hanes cyfoethog a llên gwerin y rhanbarth, ewch i siambrau claddu hynafol a meini hirion, a phrofi egni unigryw'r dirwedd.

Buddion

  • Lleihau straen a phryder, gwella hwyliau ac ansawdd cwsg.
  • Cynyddu hunanymwybyddiaeth a magu hyder.
  • Datblygu cysylltiad dyfnach â natur a gwerthfawrogi ei harddwch.
  • Cwrdd â phobl newydd, adeiladu cyfeillgarwch, a chreu atgofion parhaol.

Dyddiadau

19 - 21 Awst (Cwrs i bobl ifanc 18 - 25 oed)

22 - 24 Awst (Cwrs i bobl ifanc blwyddyn 12 a 13)

Pris

£170 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.