Barod i ateb galwad y gwyllt?
Ymunwch â ni am antur fythgofiadwy yng Ngorllewin Cymru ar ein Gwersyll Gwyllt sydd wedi'i gynllunio i'ch ailgysylltu â natur a'ch grymuso i ffynnu yn yr awyr agored.
Beth i ddisgwyl
- Ewch amdani yn yr awyr agored: Teithiau cerdded dan arweiniad trwy goetiroedd hynafol ac ar hyd bryniau mawreddog y Preselau, sesiwn anturio a gwylio bywyd gwyllt ar yr arfordir ,a sêrydda o dan flanced o sêr gyda’r nos.
- Goroeswch y gwyllt!: Dysgwch sgiliau gwylltgrefft megis dechrau tan, creu lloches a fforio am bwyd a gwynebu sialensau llwythol.
- Datblygwch sgiliau hunangynhaliol: Gweithdai tyfu bwyd a choginio a chrefftau gwledig.
Wedi gadael mi fydd gennych...
- Mwy o hunanddibyniaeth a hyder: Meistrolwch sgiliau newydd a darganfod eich dyfeisgarwch mewnol.
- Cysylltiad dyfnach â natur: Datblygu gwerthfawrogiad dwfn o harddwch a grym yr anialwch.
- Atgofion bythgofiadwy: Rhannu straeon, chwerthin, heriau a thân gwersyll o dan awyr helaeth Cymru.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 11-13, neu blynyddoedd ysgol 7-8.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
27 Awst 2024
Pa mor hir mae'n para?
2 noson
Pris
£170 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.