Taith Natur a Gwylltgrefft i Ddysgwyr | 17.8.24 | 10:30yb
Dewch am dro trwy Goedwig hynafol a hudolus Pentre Ifan a Thŷ Canol a dysgwch dermau Cymraeg am y byd naturiol a'r bywyd gwyllt o'ch cwmpas trwy gyflawni sialensiau o fewn llwyth eich teulu. Fyddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau gwylltgrefft yn ystod y sesiwn yma gan gynnwys fforio, dechrau tan a chreu lloches.
Pris: £15 Oedolyn | £9 Plentyn
Archebwch trwy ebostio- pentreifan@urdd.org