DIOLCH!
Gyda Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro 2025 wedi hedfan heibio, dyma ddiolch i chi am eich cefnogaeth!
Daeth miloedd ynghyd i Barc Margam dros y Sulgwyn i ddathlu creadigrwydd, talent ac ymdrech pobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt. O berfformiadau unigryw ar y llwyfannau i’r awyrgylch bywiog ar y Maes, roedd yn ŵyl llawn egni, cymuned a balchder!
Diolch o galon i bawb a gyfrannodd, cystadleuwyr, athrawon, gwirfoddolwyr, staff, teuluoedd ac ymwelwyr. Eich ymroddiad a’ch cefnogaeth sy’n gwneud yr Eisteddfod mor arbennig.
Ni'n edrych ymlaen at groesi'r bont ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn barod, a'n gobeithio cawn eich gweld chi yno!