Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd groesi’r bont i Fôn oedd yn 2004, felly mae’r Urdd yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno yn 2026. Mae disgwyl bydd yr Ŵyl yn denu yn agos at 100,000 o ymwelwyr, a chreu miliynau mewn incwm i’r economi leol.
Yn ogystal â’r cystadlu brwd, bydd arddangosfeydd a gweithgareddau cyffrous yn y GwyddonLe a’r babell Gelf a Chrefft, a llwyfannau berfformio gyda dawnswyr, bandiau byw a grwpiau yn diddanu trwy’r dydd, bob dydd.
Daw plant, pobl ifanc, ysgolion a theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yn yr 378 o gystadlaethau a gynhelir yn yr ŵyl. Caiff plant lleol hefyd y cyfle i fod yn rhan o’r sioeau, prosiectau a digwyddiadau fydd yn arwain at yr Ŵyl.
Mae’r paratoadau ar gyfer yr ymweliad wedi hen ddechrau, pwyllgorau wedi’u sefydlu a gwaith caled yn cael ei wneud i godi arian a dewis testunau.
Mae’r pwyllgor gwaith hefyd wedi’u hethol fel y ganlyn:
Cadeirydd: Manon Wyn Williams
Is gadeiryddion: Derek Evans, Mari Ann Evans, Llinos Medi, Eirian Stephen Jones, Medwyn Roberts,
Ysgrifennydd: Fiona Hughes, Is-ysgrifennydd: Greta Stuart, Trysorydd: Rhys Parry.
Mae’r Eisteddfod yn galw am wirfoddolwyr i helpu â threfniadau’r Ŵyl dros y ddwy flynedd nesaf. Os hoffai unrhyw un ymuno a’r pwyllgor apêl i godi arian, neu bwyllgor celfyddydol, cliciwch y ddolen ar y dudalen yma. Mae croeso i bawb ymuno!
Mae pob ardal sy’n croesawu yr ŵyl yn derbyn targed ariannol, a tharged Ynys Môn yw £380,000, felly bydd angen cymaint o Fonwysion â phosib i helpu i gyrraedd y targed hwn. Mae’r pwyllgorau apêl yn y broses o gael eu sefydlu ar hyn o bryd, ac mae angen gwirfoddolwyr o bob cymuned ar yr ynys i sicrhau bod pwyllgorau yn cael eu creu ar draws y sir. Bydd pob pwyllgor apêl yn derbyn targed unigol, ac yna wedi sefydlu, byddent yn mynd ati i gynnal digwyddiadau dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn casglu arian a chodi brwdfrydedd o fewn eu cymunedau, a sicrhau fod pawb yn rhan o groesawu’r Urdd i’r ardal, felly ewch ati i gofrestru i fod yn rhan o'r hwyl!
Mae’r Eisteddfod hefyd yn galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd ynys Môn 2026. Bydd y Llywyddion y Dydd yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy’n cynrychioli’r ynys a’n esiampl i blant a phobl ifanc heddiw. Bydd y Llywyddion Anrhydeddus yn unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi. Rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc yr ardal, ac wedi gweithio’n dawel ac yn ddi-dor i roi cyfleoedd drwy’r Gymraeg i Ieuenctid eu bro. Gallwch enwebu trwy glicio'r ddolen ar y dudalen yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiad am Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, cysylltwch â eisteddfod@urdd.org . Cofiwch ddilyn Eisteddfod yr Urdd ar eu cyfrifon cymdeithasol am ddiweddariadau'r Ŵyl: @EisteddfodUrdd.
Yr Urdd yn lansio gŵyl saith diwrnod wrth gyhoeddi Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau y bydd trefn newydd ar gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd wrth i’r mudiad lansio gŵyl saith diwrnod ar Ynys Môn yn 2026.
Cyhoeddwyd bwriad yr Urdd i ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.
Yn dilyn cyfres o eisteddfodau cylch a rhanbarth yn y gwanwyn, cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Gae Sioe Môn ger Gwalchmai rhwng dydd Sadwrn y Sulgwyn, 23 Mai a dydd Gwener 29 Mai.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi gweld yr Urdd yn cydweithio gydag aelodau, aelwydydd, ysgolion a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â’r Gymraeg drwy’r celfyddydau.
Mae trefn newydd cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd fel â ganlyn:
· Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo
· Dydd Sul: Aelwydydd
· Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19, ADY
· Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25
· Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9
· Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
· Dydd Gwener: Cynradd
Mae'r amserlen lawn i weld isod.
Mae dros 400 o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn Eisteddfod yr Urdd erbyn hyn, ac mae cystadlaethau newydd yr ŵyl yn amrywio o rai i gorau ac unawdwyr i fonolog a dawns.
Mae Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026 bellach wedi’i gyhoeddi - gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar ein gwefan.
Er mwyn dathlu dyfodiad yr ŵyl i Fôn, bydd Gŵyl Groeso Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 20 Medi. Yn dilyn gorymdaith trwy dref Llangefni, cynhelir prynhawn o hwyl a gig ym Mhafiliwn Cae Sioe Môn, gyda pherfformiadau gan Celt, Fleur de Lys a Cordia.
Bydd cyhoeddiad am ŵyl Triban yn dod yn fuan.