Prosiect Plethu: CPD Merched Caernarfon a Chor Lleisiau Llawen

Gofynnon ni i Rhys Iorwerth fynd draw i Glwb Pêl Droed Merched Caernarfon i greu anthem i’r clwb arbennig hwn! Yna, daeth Côr Arwyddo Lleisiau Llawen i’r Oval yng Nhaernarfon i arwyddo’r yn anthem. Plethu makaton ac angerdd pêl-droed, be’ well?!
 

Prosiect Plethu: Osian Meilir Ioan x Anniben x Dawnswyr Debbie Chapman

Dyma Anniben (Cymeriad drag o Gaerdydd) yn partneru gyda’r artist dawns Osian Meilir Ioan i greu perfformiad creadigol sy’n uno gwisgo a choluro drag a dawns. Ymunodd criw merched Debbie Chapman a’r ddawns i gyfleu’r egni gwych sy’n perthyn i berfformiad Drag.



Prosiect Plethu: Opera Cenedlaethol Cymru x Rebellion Allstars

Yn y perfformiad unigryw yma, ry’n ni’n plethu cerddoriaeth glasurol Opera aelodau’r OCC gyda dawns cheerleading gan griw Rebellion Allstars. Gyda Aimee Daniel yn canu ‘Habanera’ o’r Opera Carmen, dyma griw cheerleading ‘Rebellion Allstars’ yn creu rwtin i gydfynd a’r alaw ddramatig i greu perfformiad gwbwl ddramatig!




Prosiect Plethu: Ysgol Hamadryad x Rufus Mufasa x Mel Owen x Dolled Up Hair

Aeth Mel Owen a Rufus Mufasa i Ysgol Hamadryad i greu rap sy’n trafod a dathlu hunaniaeth gwallt. Mae Ysgol Hamadryad yn rhan o Côd ‘Halo’ – côd sydd yn gwarchod disgyblion yn erbyn rhagfarnau am wead gwallt naturiol a’i steils gwallt personol. Os wrandewch chi’n ofalus, fe glywch synau a rhythmau o’r siop trin gwallt Dolled Up Hair.
 
 

Prosiect Plethu: Dawnswyr Anti Karen x West Coast Warriors

Dyma Ysgol Ddawns Anti Karen ac Athletwyr Clwb Pêl fasged y West Coast Warriors, Aberystwyth yn dod at ei gilydd i greu dawns unigryw a chynhwysol i bawb i gyfeiliant y trac ‘Rhyl’, Tara Bandito.