Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnal digwyddiad ieuenctid cenedlaethol arbennig i roi llwyfan i bobl ifanc rannu eu barn ac i holi gwleidyddion wrth i Gymru baratoi ar gyfer y 7fed Senedd.

Bydd cyfle i hyd at 200 o bobl ifanc 16+ oed i ddod at eu gilydd am ddiwrnod llawn gweithdai, trafodaethau a hystings byw gyda chynrychiolwyr o’r prif bleidiau gwleidyddol. Bydd y prynhawn yn cael ei ffilmio fel rhan o’r gyfres deledu Pawb a’i Farn ar S4C.

Dyma gyfle unigryw i bobl ifanc i:

  • ddeall sut mae’r Senedd yn gweithio a beth sy’n newid gyda’r 7fed Senedd
  • ddysgu am eu hawl i bleidleisio a chyfranogi’n ddemocrataidd
  • ddatblygu a gofyn cwestiynau cryf, beirniadol i wleidyddion
  • sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar lwyfan cenedlaethol.

Pryd

Dydd Iau, 19 Mawrth, 10am – 3.30pm

Lleoliad

All Nations Centre, Sachville Avenue, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 3NY*
*Gellir cyrraedd y Maes Parcio Dwyreiniol yn syth oddi ar y slipffordd o’r A48 i Gaerdydd

Trefn y diwrnod

10.00-10.30: Cyrraedd, cofrestru a lluniaeth ysgafn

10.30 – 12.40:
Sesiwn A – Agor drysau i fyd democratiaeth yng Nghymru

Gweithdy rhyngweithiol sy’n grymuso pobl ifanc i ddeall eu hawl i bleidleisio, sut i gofrestru i bleidleisio, a sut i gymryd rhan yn ddemocrataidd. Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi lle i drafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw ac i lunio cwestiynau craff i’w gofyn i wleidyddion yn ystod yr hystings yn y prynhawn. Wedi’i hwyluso gan The Politics Project.

Sesiwn B – Grymuso pobl ifanc i ddefnyddio eu llais
Bydd tîm addysg y Senedd yn helpu pobl ifanc ddeall sut mae’r Senedd yn gweithio a’r newidiadau sy’n dod gyda’r 7fed Senedd, gan roi’r wybodaeth sydd ei angen arnynt i wneud synnwyr o’r penderfyniadau sy’n siapio ein dyfodol. Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd yn rhannu mewnwelediadau cyfoes ar dueddiadau barn y cyhoedd, a’r hyn maen nhw’n ei olygu i Gymru heddiw.

12.45-13.40: Cinio – bydd cinio yn cael ei ddarparu i’r holl fynychwyr

13.40 – 15.15: Hystings Cenedlaethol yr Urdd
Bydd y digwyddiad yn cyrraedd ei uchafbwynt mewn hystings byw sy’n dod â gwleidyddion o brif bleidiau Cymru at eu gilydd i ateb cwestiynau craff gan bobl ifanc o bob cwr o’r wlad. Dyma gyfle i’r mynychwyr arwain y sgwrs, i herio safbwyntiau ac i wneud eu lleisiau’n rhan o’r drafodaeth genedlaethol. Bydd y sesiwn yn cael ei ffilmio ar gyfer Pawb a’i Farn, gan roi’r cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o raglen deledu fydd yn cael ei darlledu ar S4C yr un noson.

15.30: Cloi a diwedd y digwyddiad

Pwy all gymryd rhan

  • Pobl ifanc 16+ oed
  • Disgyblion 6ed dosbarth a myfyrwyr colegau addysg bellach ledled Cymru. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn agored i ysgolion a cholegau addysg bellach cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a dysgwyr Cymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael drwy’r dydd.
  • Rheini sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, cymdeithas, neu leisio barn – nid oes angen profiad blaenorol. Rydyn ni’n awyddus i ddod â chymysgedd eang o farnai gwleidyddol, safbwyntiau a phrofiadau bywyd at ei gilydd.
  • Does dim rhaid bod yn aelod o'r Urdd i fynychu'r digwyddiad hwn.


Sut i gymryd rhan

Mae tocynnau grŵp ar gael yn rhad ac am ddim yma.

Mae tocynnau ar gael ar gyfer grwpiau o hyd at 12 person (gan gynnwys arweinydd(/ion) y grŵp).

Bydd llefydd yn cael eu cadw ar sail y cyntaf i’r felin, a bydd cofrestru’n cau unwaith y bydd y digwyddiad yn llawn, neu erbyn 9 Mawrth 2026.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio a’i ddarlledu drwy gydol y dydd, felly mae caniatâd lluniau a ffilmio yn ofynnol ar gyfer y digwyddiad hwn.

Partneriaid sy’n rhan o’r digwyddiad

The Politics Project
Sefydliad addysg a chynnwys democrataidd di-duedd sy’n cefnogi pobl ifanc i ddefnyddio eu llais yw The Politics Project. Maent yn galluogi ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled y DU i roi’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ymgysylltu â democratiaeth.
Mae The Politics Project yn arbenigwyr mewn cysylltiad gwleidyddol – gan gefnogi pobl ifanc i ymgysylltu â gwleidyddion. Maent yn cefnogi’r hystings fel rhan o’u rhaglen Host a Hustings Cymru.

Tîm Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid y Senedd
Tîm Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid y Senedd yw’r tîm sy’n arwain ar gefnogi pobl ifanc ledled Cymru i ddeall sut mae democratiaeth yn gweithio ac sut y gallant ddefnyddio eu llais yn y Senedd. Eu nod yw grymuso pobl ifanc i ddeall eu hawliau democrataidd, meithrin hyder i leisio barn, ac i ddeall rôl a phwrpas y Senedd yng Nghymru.

Canolfan Llywodraethiant Cymru
Canolfan Llywodraethiant Cymru yw canolfan ymchwil annibynnol Prifysgol Caerdydd sy’n cynnal ymchwil arloesol i bob agwedd ar gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraethu ac economi wleidyddol Cymru. Maent hefyd yn cynnal a dadansoddi polau barn gwleidyddol Cymru, gan ddarparu mewnwelediadau clir i dueddiadau pleidleisio a barn y cyhoedd. Mae Dr Ed Poole yn aelod blaenllaw o’r ganolfan, yn ddarllenydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arbenigo mewn sut mae arian a phwerau’n cael eu rhannu rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth, a pha mor ymatebol yw’r llywodraethau hynny i anghenion pobl.