Daw Josh Hosker o Greselley, Sir Benfro, lle aeth i Ysgol y Castell cyn cychwyn gweithio fel prentis Gwaith Ieuenctid Lefel 3 efo Cyngor Sir Benfro. Cafodd Josh ei enwebu gan ei haseswr Nia, a ddywedodd fod 'Josh wedi goresgyn nifer o rwystrau i weithio drwy ei brentisiaeth; mae wedi cael cefnogaeth wych gan ei weithle, ac mae Ani, ein tiwtor Sgiliau Hanfodol, wedi bod wrth law i gefnogi Josh gyda'r elfen honno o'i brentisiaeth.  Mae'r ymdrech y mae Josh wedi ei wneud wedi bod yn wych, mae’n dangos ei hiwmor ac rwy'n mwynhau fy ymweliadau â Sir Benfro yn fawr.' 

Ychwanegodd ei rheolwr llinell, Steve Lewis 'Llongyfarchiadau, Josh! Er gwaethaf ychydig o anawsterau ar hyd y ffordd, rydych chi wedi dangos cymeriad ac ymrwymiad go iawn wrth wneud cynnydd mor gryf ar eich cwrs Gwaith Ieuenctid. Mae hwn yn gyflawniad gwych, ac mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd yr amser i'w ddathlu. Cadwch yr un ymroddiad ac ymdrech wrth symud ymlaen - rydych chi'n amlwg ar y llwybr cywir.  Da iawn!' 

Pam wnaethoch chi benderfynu cymryd prentisiaeth Gwaith Ieuenctid gyda'r Urdd? 

Rwyf wastad wedi mwynhau helpu pobl ac wedi bod yn dda am roi cyngor a chefnogaeth i bobl.  Roeddwn newydd symud adref ar ôl byw i ffwrdd am ychydig ac roeddwn yn chwilio am swydd.  Wnaeth fy modryb rannu swydd ar gyfer prentisiaeth Gwaith Ieuenctid ag annog i mi wneud cais, ac yn teimlo y byddai'n syniad da, a dyma fi nawr. 

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd a sut mae'r brentisiaeth yn effeithio ar eich swydd?  

Rwy'n mwynhau siarad â phobl ifanc a’u cefnogi, er mwyn ceisio gwella eu bywydau, hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer y diwrnod honn. Rwyf hefyd yn mwynhau adeiladu perthnasoedd effeithiol cryf gyda phobl ifanc, ac mae'r brentisiaeth wedi fy helpu i wneud fy ngwaith yn well, yn ogystal â dysgu sgiliau nad oeddwn efo o'r blaen. 

Sut mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu eich sgiliau Cymraeg?  

Sylweddolais fod fy sgiliau Cymraeg wedi gwella yn ystod y brentisiaeth, ac wedi gwneud i mi sylweddoli hefyd cymaint o Gymraeg yr oeddwn yn ei wybod yn barod. 

Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gweithle?  

Fy mhrif ddiddordeb y tu allan i'r gwaith yw teithio. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn Japan, lle lwyddais i gynnwys sawl un o’n diddordebau eraill, fel diwylliant Japaneaidd, gemau fideo a cheir Japaneaidd wedi'u haddasu. Rwyf hefyd yn treulio fy amser rhydd yn gwylio ffilmiau, dringo, cerdded, a mynd i gyngherddau. 

Ym mha ffordd mae cwblhau prentisiaeth yn effeithio ar eich datblygiad personol?  

Mae wedi rhoi ymdeimlad cryf o gyflawniad i mi, am gwblhau prentisiaeth heriol ond gwerth chweil. 

Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau eich prentisiaeth?  

Rwy'n gobeithio parhau i wneud Gwaith Ieuenctid yn y dyfodolRwy’n deall y byddaf yn gallu parhau i weithio fel Gweithiwr Ieuenctid tymhorol lle rwy’n gweithio nawr.  Rwyf yn gobeithio parhau efo gweithio yng Ngwaith Ieuenctid ac yn benodol i fedru gweithio ynNghlybiau Ieuenctid yn Hwlffordd ac ym Mhenfro. 

Disgrifiwch eich cyfrifoldebau.  

Rwy'n gyfrifol am gefnogi Gweithwyr Ieuenctid eraill yn eu gwaith, yn ogystal a bod yn gyfrifol am fy hun fel prentis Gwaith Ieuenctid, wrth i mi fynd ymlaen. Rwy'n ceisio bod yn rhywun cyfrifol i bobl ifanc edmygu a hefyd bod yn rhywun sydd ar gael i siarad â nhw pan fyddaf yno. 

Disgrifiwch eich profiad o gwblhau'r brentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Heriol, gwobrwyol a diddorol.  

Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth am eich stori? Sut ydych chi wedi cyrraedd lle rydych chi nawr? Beth oedd / yw eich her fwyaf?  

Rwyf bob amser wedi cael trafferth gyda hyder, yn ogystal ag yn academaidd. Trwy ymgymryd â'r brentisiaeth hon, yn enwedig ar yr ochr Gwaith Ieuenctid, rwyf wedi ennill hyder gan fy mod wedi gwthio fy hun y tu allan i'n ffiniau cyfforddus, ac yn wynebu heriau a sefyllfaoedd nad ydw i wedi'u hwynebu o'r blaen. Mae'r ffaith fy mod wedi gallu delio efo rhain yn dangos faint yr ydwyf wedi tyfu fel person. Rwy'n dod at ddiwedd y brentisiaeth nawr,  ac roeddwn reit bell ar ei hôl hi ar un adeg, ond rydw i wedi gwthio drwy’r heriau, medru gweld y diwedd, ac yn falch o sut rwyf wedi goroesi’r rhwystrau hyn.