Swyddog Gweinyddol Ariannol (dros dro)

Teitl y Swydd:  Swyddog Gweinyddol Ariannol (dros dro)

Math o gytundeb:  Dros dro - 1 Mai 2026 tan 31 Awst 2026

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 3: £26,204 i £28,566 y flwyddyn

Lleoliad:  Un o swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad Cau:  19 Ebrill

Dyddiad Cyfweld:  Wythnos dechrau 20 Ebrill

Swydd Ddisgrifiad:  Cliciwch yma

 

Y Swydd

Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol Ariannol (dros dro) sy’n fanwl gywir, trefnus ac yn gymhellol, i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’n Tîm Cyllid. Bydd y sawl llwyddiannus yn cynorthwyo gyda gweithdrefnau prosesu ariannol o ddydd i ddydd, gan sicrhau cywirdeb, effeithlonrwydd a chydymffurfiaeth â pholisïau mewnol. Mae’r rôl hon yn addas i rywun â sgiliau trefnu cryf ac agwedd ragweithiol at reoli llwyth gwaith.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwenno Williams (Cyfarwyddwr Cyllid) ar 07836583868 neu gwennowilliams@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org