Mi fydd Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i Barc Margam, Castell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003 ac mae’r gân yn cymryd lle’r cywydd croeso traddodiadol eleni.
Yn ddiweddar daeth Huw Chiswell, Bronwen Lewis a dros 1,800 o blant yr ardal ynghyd i ffilmio fideo gerddoriaeth i gyd-fynd â’r gân ar safle’r ŵyl ym Mharc Margam. Yn arddangos rhai o safleoedd mwyaf nodedig yr ardal, o’r Dur i’r Môr, mae’r fideo yn crisialu bro mebyd y plant ac yn estyn croeso i’r holl gystadleuwyr fydd yn dod i’r safle ym mis Mai 2025. Mae cantorion, cerddorion a dawnswyr ifanc y fro wedi bod yn rhan o greu y gân arbennig hon.
‘Cân y Croeso, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr’ yw Trac yr Wythnos BBC Radio Cymru yr wythnos hon (11 Tachwedd) ac mae ar gael i’w ffrydio ar y platfformau digidol. Cyn ei rhyddhau ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd y fideo gerddoriaeth yn cael ei dangos am y tro cyntaf mewn gig arbennig yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ar nos Sadwrn (16 Tachwedd) yng nghwmni Huw Chiswell a Bronwen Lewis.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Wrth i’r Eisteddfod symud o ardal i ardal mae’n gyfle inni estyn allan i blant sydd heb gymryd rhan yn yr ŵyl o’r blaen, a rhoi cyfle iddynt brofi gweithgareddau fel hyn. Rydan ni mor falch fod ieuenctid y fro yn gyffrous i groesawu pawb i orllewin Morgannwg yn 2025, ac yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Gwaith am gynnig y profiadau hyn i'n pobl ifanc, a’r holl gefnogaeth ar hyd y daith.”
Meddai Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Castell-Nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, “Rydym yn edrych ymlaen i groesawu’r dathliad hyfryd hon o iaith a diwylliant, i Barc Margam, ein safle hanesyddol y flwyddyn nesaf. Gobeithiaf y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cymryd y cyfle i fod yn rhan o ddathliadau’r Eisteddfod.”
Yn ogystal â rhyddhau’r gân a’r fideo gerddoriaeth, mae cyfres o ddathliadau yn cael eu cynnal yn yr ardal dros y mis a mwy nesaf – o jamboris cynradd i Barêd yn Aberafan a chyngerdd Teilwng yw’r Oen gan Ysgolion Uwchradd Gorllewin Morgannwg. Mae prosiect yr Ŵyl Groeso yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), a’i weinyddu drwy Gyngor Castell-Nedd Port Talbot, a’r fideo wedi ei greu drwy gefnogaeth cwmni cynhyrchu Afanti Media.
Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol fwyaf Ewrop. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam rhwng 26 Mai – 31 Mai. Bydd yr Ŵyl yn croesi’r bont i Ynys Môn yn 2026, cyn ymweld â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.