Pedwar Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 fydd Davida Lewis, Janet Jones, Menna Bennett Joynson a Wayne Pedrick.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r pedwar sy’n cael eu anrhydeddu eleni wedi rhoi dros 160 o flynyddoedd o gefnogaeth i’r Mudiad. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith a chyrhaeddiad yr Urdd, ac edrychwn ymlaen yn arw at gydnabod ymrwymiad a gwaith y pedwar mewn seremoni arbennig ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Llun, 26 Mai.”
Davida Lewis
Wedi ei magu yn Abertawe, mae Davida Lewis wedi treulio’i hoes ym mro’r Eisteddfod. Ffurfiodd ddau gôr lleol; Côr Plant Waunarlwydd ym 1965 a Chôr Waunarlwydd ym 1970. Mae’r corau wedi cael cryn lwyddiant yn lleol ac yn rhyngwladol ers 60 mlynedd. Mae’r corau’n parhau a Davida bellach wedi trosglwyddo’r awenau arweinyddol ac yn mwynhau bod yn aelod. Bydd dwyn y teitl Llywydd Anrhydeddus yn yr Eisteddfod yn ei hardal yn goron ar y cyfan, wedi iddi gael llu o brofiadau a llwyddiant mewn Eisteddfodau dros y degawdau.
Janet Jones
Wedi’i magu yng Nghasllwchwr, mae Janet yn byw yng Nghastell-nedd ers dros 40 mlynedd. Mae cerddoriaeth yn ei gwaed a dros y blynyddoedd bu’n cystadlu’n gyson ar lwyfannau gan ennill sawl prif wobr yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Janet yw Arweinydd ‘Parti Llwchwr’. Mae hi wedi rhannu ei doniau cerddorol wrth hyfforddi plant i ganu a pherfformio mewn Eisteddfodau a digwyddiadau lu dros y blynyddoedd. Sefydlodd ‘Adran Nedd’ ym 1993 er mwyn cynnig profiadau diwylliannol a Chymreig i ieuenctid yr ardal, ac yn dilyn llwyddiant y grŵp, sefydlodd ‘Uwch Adran Nedd’ i sicrhau bod y profiadau’n parhau.
At hyn mae wedi bod yn aelod gweithgar o Bwyllgor Cylch Nedd ac Afan, ac yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Rhanbarthol. Janet yw un o Is-gadeiryddion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Dur a Môr eleni.
Menna Bennett Joynson
Cafodd Menna ei geni yn Llanidloes cyn i’w theulu symud i Lanuwchllyn ac yna Aberystwyth. Fe’i magwyd ar aelwyd gerddorol a diwylliedig, ac roedd canu ac Eisteddfota yn ei gwaed ers yn ifanc. Mae wedi cael cryn lwyddiant yn y maes canu cerdd dant yn Eisteddfodau’r Urdd, ac yn ystod ei swydd fel athrawes gerdd yn Rhydfelen cafodd gyfle i hyfforddi’r disgyblion i ganu a chystadlu yn yr Eisteddfod.
Ym 1976 symudodd Menna i Abertawe gyda’i gŵr a magu tri o blant yn lleol. Sefydlodd Menna Adran Sgeti yn 1978 a ddatblygodd wedyn yn Aelwyd yr Urdd Sgeti, ac aethant ymlaen i gael cryn lwyddiant yn Eisteddfodau’r Urdd. Penodwyd Menna yn athrawes gerdd yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn athrawes delyn beripatetig yn yr ardal. Mae’n nodi bod ei dyled a’r holl brofiadau mae hi a’i disgyblion wedi cael trwy’r Urdd wedi cyfoethogi ei bywyd yn fawr.
Wayne Pedrick
Profiad cyntaf Wayne o Eisteddfod yr Urdd oedd trwy ei blant Lisa ac Aled, fel disgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwaun Cae Gurwen ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Roedd y ddau wrth eu boddau’n cystadlu, gydag Aled yn cipio gwobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2003 yn Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan.
Roedd Wayne yn gweithio yn y gwaith glo lleol. Ym 1998 cafodd swydd fel athro pres peripatetig, gan annog a chefnogi ei ddisgyblion i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, fel unawdwyr ac fel ensemble.
Penodwyd Wayne yn Bennaeth y Gwasanaeth Cerdd Beripatetig yn Nedd Port Talbot yn 2016 ac mae’n helpu rhedeg tair cerddorfa ieuenctid ac iau, tri band pres ieuenctid ac iau a Chôr Ieuenctid a Band Mawr. Mae Wayne hefyd yn rhoi o’i amser i feirniadu cystadlaethau offerynnol mewn Eisteddfodau Rhanbarth a Chenedlaethol.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr yn cael ei chynnal ym Mharc Margam rhwng 26 a 31 Mai. Gellir prynu tocynnau i Eisteddfod yr Urdd, gan gynnwys Gŵyl Triban fydd yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod ar www.urdd.cymru/eisteddfod