Dathlu partneriaeth newydd Chwaraeon yr Urdd a Net World Sports

Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn falch iawn i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Net World Sports.

Mi fydd y cwmni, sydd wedi'i leoli yn Wrecsam, yn darparu'r offer ar gyfer ein cystadlaethau cynradd ac uwchradd er mwyn uwchraddio'r profiad o chwarae i'r rhai sy'n cymryd rhan.

Mae'r bartneriaeth yn mynd ym mhellach na'r cystadlaethau, gyda chynnig arbennig i ysgolion, colegau ac unigolion sydd yn ymwneud â Chwaraeon yr Urdd. Mi fydd cod unigryw yn cael eu rhannu gydag ein haelodau fel rhan o'r cynnig hefyd.

"Rydym yn hapus iawn i allu gweithio'n agos gyda chwmni Cymraeg i gynnig profiad gwell i ein haelodau ac i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ein cystadlaethau," meddai Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon yr Urdd. "Mae'n bwysig iawn i ni hefyd i weld bod ein haelodau hefyd yn cael manteisio o'r cynnig, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y bartneriaeth yn tyfu yn y dyfodol."

I weld yr hyn mae Net World Sports yn gynnig, ymwelwch â'r wefan trwy glicio yma.

Fel rhan o gyhoeddi'r bartneriaeth, rydym yn falch i allu cynnig 20% i ffwrdd unrhyw archeb wrth i chi defnyddio'r cod: URDD20

Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu yn unrhyw un o gystadlaethau Chwaraeon yr Urdd neu os hoffech weld beth sydd gennym i'w gynnig, ewch yma.