Gerard Coutain yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd 2024

Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn (dydd Sadwrn, 1 Mehefin), cyhoeddwyd mai Gerard Coutain, sy’n 16 oed ac yn byw yn Rhydaman, yw Prif Gyfansoddwr yr ŵyl.

Rhoddir y Fedal eleni gan William a Ffion Hague, Plas Cyfronydd, a noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae Gerard yn byw yng Nghymru ers wyth mlynedd ac yn dysgu Cymraeg.

Mae Gerard yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn rhythmig ac egnïol dan y teitl ‘Triawd o Llannerch y goedwig’ ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn. Daeth 14 ymgais i law, gyda’r beirniaid Gareth Glyn a Guto Pryderi Puw yn cael “cryn foddhad yn pori drwy’r amrywiaeth o ddarnau difyr.”

Meddai Gerard: “Ar ôl dysgu chwarae’r piano pan oeddwn yn 6 oed, dechreuais gyfansoddi yn 14 oed, ond dwi heb dderbyn unrhyw hyfforddiant cyfansoddi ffurfiol. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o gyfansoddwyr, gan gynnwys Bach, Stravinsky, Debussy, Lili Boulanger, ac yn fwy diweddar Walter Leigh.

“Cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu darn ar gyfer telyn unigol ('Barbarica') ar gyfer Cerddorion Ifanc Dyfed, ac ym mis Tachwedd diwethaf cefais fy nerbyn i Ysgol Purcell i astudio cyfansoddi, piano a ffidil, gan ddechrau ym mis Medi.

“Mae’r darn rydw i wedi’i gyfansoddi wedi’i sgorio ar gyfer triawd o ffliwt, fiola a thelyn. Ei nod yw archwilio elfennau mympwyol byd natur a llên gwerin, a’r gwahanol seiniau y byddech chi’n eu disgwyl o lannerch goedwig gudd.”

Meddai’r beirniaid: “Mae’r enillydd yn llwyddo i arddangos medr dechnegol hyderus a dawn naturiol i ysgrifennu ar gyfer offerynnau’r ensemble. Dyma ddarn afieithus, llawn egni a oedd yn ein cadw ar flaenau’n sedd o’r bar cyntaf i’r bar olaf.

“Roeddem o’r farn, y gellid fod wedi cynnig y wobr i unrhyw un o’r pedwar yn y dosbarth cyntaf ac fe’i hanogir ynghyd â’r holl gystadleuwyr eraill i barhau i gyfansoddi – daliwch ati.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Rafik Harrington o Gaerdydd, a David John Ingham o Abertawe oedd yn drydydd.

Gellir gwylio rhaglenni uchafbwyntiau wythnos ar S4C Clic a gellir gweld holl ganlyniadau’r Ŵyl drwy ymweld â’r wefan s4c.cymru/urdd