Gwaith “arloesol” yr Urdd wrth gynnig lloches i deuluoedd o Afghanistan

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi’i ganmol am ddarparu rhaglen “arloesol” 5 mis i 113 o ffoaduriaid o Afghanistan oedd yn chwilio am loches, a’r mudiad bellach yn trafod y math o gefnogaeth gellir ei gynnig i ffoaduriaid o’r Wcráin.

Ar ôl i’r Taliban gipio grym yn Afghanistan ym mis Awst 2021, fe wnaeth y mudiad ieuenctid estyn allan a chynnig llety a chymorth yn ei wersyll yng Nghaerdydd i 20 o deuluoedd (cyfanswm o 113 o ffoaduriaid), gyda’r rhan fwyaf o’r rheiny yn blant a phobl ifanc.

Bu i’r dull ‘Tîm Cymru’ sicrhau bod yr Urdd yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Tai Taf, Cytûn a mudiadau cymorth i ffoaduriaid wrth ymateb yn strategol i’r sefyllfa yn Afghanistan a sicrhau y gall Cymru wireddu ei gweledigaeth fel Cenedl Noddfa.

Yn ogystal â chynnig llety, chwaraeodd yr Urdd a’i rwydwaith o bartneriaid a gwirfoddolwyr rôl allweddol yn yr adsefydlu drwy gynllunio rhaglen o weithgareddau i gefnogi ac ymgysylltu â’r teuluoedd. 5 mis oedd hyd y prosiect ac mae’n brawf o sut gall y “ffordd Gymreig” o gefnogi ffoaduriaid gyflawni canlyniadau gwell na’r model traddodiadol a ddefnyddir mewn mannau eraill.

Trefnodd yr Urdd weithgareddau dyddiol i’r plant, oedd yn amrywio o wersi nofio i sesiynau chwaraeon a dawnsio, a gweithdai yng nghwmni gwirfoddolwyr lleol, gan gynnwys disgyblion chweched dosbarth Ysgol Plasmawr. Roedd y gweithgareddau hefyd yn cynnig seibiant hollbwysig i’r rhieni. Trefnwyd grwpiau cymorth, gweithdai a gweithgareddau wythnosol ar gyfer yr oedolion yn ogystal, o wersi iaith a gweithdai busnes i gemau criced a phêl-droed 5-bob-ochr.

Bu cefnogaeth partneriaid amrywiol a haelioni’r cyhoedd i gronfa JustGiving y prosiect hefyd yn gymorth i sicrhau bod y teuluoedd wedi mwynhau sawl trip i atyniadau lleol ac wedi gallu mynychu nifer o gemau pêl-droed a rygbi cenedlaethol.

Mae llythyr a ysgrifennwyd at yr Urdd gan y teuluoedd yn darllen: “Diolch am eich gwaith diflino i wneud ein teuluoedd yn hapus. Mae presenoldeb a chefnogaeth yr Urdd wastad wedi bod yn ffynhonnell o anogaeth a thawelwch meddwl i ni i gyd ac rydyn ni’n ei werthfawrogi’n fawr. Roeddech chi wrth ein hochr yn ein holl drafferthion ac roeddech chi yno gyda ni ym mhob eiliad o’n bywyd yma yng Nghymru. Diolch i’r Urdd am bopeth rydych chi wedi’i roi i ni ac am beidio â’n gadael ar ein pen ein hunain.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: “Hoffwn i ddiolch i’r Urdd am roi croeso cynnes Cymreig i’n ffrindiau o Afghanistan. Rwy’n falch iawn ein bod ni yma yng Nghymru yn gallu helpu pan fod argyfwng rhyngwladol yn digwydd. Mae hon yn enghraifft wych o sut y gallwn ni roi cymorth a lloches i’r anghenus.”

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n partneriaid a’n gwirfoddolwyr am ei gwneud yn bosibl i ni agor ein drysau i deuluoedd a oedd yn chwilio am loches a diogelwch. Mae’r pum mis diwethaf wedi bod yn brofiad gwylaidd i ni gyd, ac yn brofiad na fyddwn byth yn ei anghofio.

“Bu rôl ein staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid yn allweddol wrth estyn parch, cefnogaeth a chyfeillgarwch i’r ffoaduriaid o Affganistan. Roedd yn hollbwysig ein bod yn rhoi croeso Cymreig twymgalon iddyn nhw, yn cynnig cefnogaeth, a’u helpu i setlo i’w bywydau newydd ar ôl wynebu cyfnod mor drasig ac erchyll yn eu bywydau.

“Yn ogystal â chynnig llety iddyn nhw, fe wnaethom eu cyflwyno i Gymru, ein diwylliant a’n hiaith. Mae Cymru yn Genedl Noddfa, a byddwn yn parhau i estyn llaw o gyfeillgarwch i bob teulu wrth iddyn nhw ddechrau pennod nesaf eu bywydau yma yng Nghymru.

“Mae cymorth dyngarol a helpu eraill wedi bod wrth wraidd gwerthoedd yr Urdd ers ei sefydlu yn 1922. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein haelodau yn deall ac yn dysgu pwysigrwydd helpu’r rheini mewn angen. Rydym wedi cychwyn trafod y math o gefnogaeth gallwn gynnig i ffoaduriaid o’r Wcráin a byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth am ein cynlluniau yn fuan.”

Dywedodd y Canon Aled Edwards OBE, Prif Weithredwr Cytûn: “Mae’r ffordd wnaeth yr Urdd ymateb i’r alwad i gartrefu teuluoedd o ffoaduriaid o Afghanistan yn sgil cwymp Kabul ym mis Awst 2021 yn gwbl arloesol. Gan fynd y tu hwnt i'r angen i gynnig llety a gwasanaethau craidd i deuluoedd bregus, creodd y mudiad gymuned gynnes a chroesawgar sy’n gwbl unigryw yn hanes derbyn teuluoedd sydd wedi’u dadleoli.”