Ar fore Llun, 29 Mai 2023 bydd saith gwirfoddolwr yn cael eu hanrhydeddu ar Faes yr Eisteddfod yn Llanymddyfri wrth dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2023. Gyda chyfuniad o dros 200 o flynyddoedd o wirfoddoli rhyngddynt, bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn aros yn y cof am resymau arbennig iawn i Gill a Gwynfor Davies, Hilary Davies, Jennifer Maloney, Peter ag Eryl Harries, a Tom Defis.
Mae cyfraniad y saith i waith yr Urdd dros y blynyddoedd wedi bod yn anhygoel:
Gill a Gwynfor Davies
Mae Gill a Gwynfor Davies yn wynebau cyfarwydd i genedlaethau o blant a phobl ifanc wedi iddynt wirfoddoli mewn 27 Eisteddfod gan deithio hefo’r ŵyl ar draws Cymru. Yn gweithio’n ddiwyd yng nghefn llwyfan, byddai Gill yn cofrestru’r cystadleuwyr cyn eu rhoi yng ngofal Gwynfor, a fyddai’n cynorthwyo'r technegwyr sain cyn i’r cystadleuwyr gamu ar y llwyfan. Eleni am y tro cyntaf ers chwarter canrif, bydd y ddau yn mwynhau’r ŵyl fel ymwelwyr.
Hillary Davies
Mae Hillary wedi cefnogi plant a phobl ifanc Cymru mewn sawl rôl ers yr 1960 ac yn wyneb cyfarwydd ym myd y ddawns. Yn ogystal ag hyfforddi a beirniadu dawnsio, roedd Hillary yn Gadeirydd Mynydd Mawr am 15 mlynedd yn ogystal ag Ysgrifenyddes Gorllewin Myrddin am 13 mlynedd.
Jennifer Maloney
Yn 1976, sefydlodd Jennifer Adran yr Urdd yn Nyffryn Aman er mwyn i’w phlant ifanc a’u ffrindiau gael elwa o’r profiadau a gafodd hi hefo’r Mudiad. Ers hynny, trwy ei gwaith gwirfoddol diflino, mae miloedd o blant a phobl ifanc yr ardal wedi cael cyfleoedd di-ri fel aelodau o Adran Penrhyd.
Peter ag Eryl Harries
Mae Peter ag Eryl Harries o Salem, ger Llandeilo, wedi cefnogi pwyllgorau Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yr Urdd ers 35 mlynedd, ac wedi arwain y tîm fel Cadeirydd ag Ysgrifennydd ers bron i 20 mlynedd. Ond tydi eu cyfraniad i’r Urdd heb stopio’n rhanbarthol. Ers blynyddoedd mae’r ddau wedi teithio Cymru hefo’r ŵyl ac yn aelodau sefydlog o dîm Uwch Stiwardiaid yr Eisteddfod.
Tom Talog Defis
Dechreuodd perthynas Tom â’r Urdd yn yr 1960au. Erbyn canol yr 1970au gwnaethpwyd yn Arweinydd Aelwyd Caerfyrddin ac wedyn Aelwyd Hendy-gwyn, gan greu cyfleoedd i genedlaethau newydd yr ardal fanteisio o brofiadau’r Mudiad. Roedd cyfraniad Tom yn flaenllaw pan sefydlwyd dau ranbarth yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin. Tom oedd Cadeirydd cyntaf Rhanbarth y Gorllewin yr Urdd – rôl mae’n parhau yw gwneud â balchder hyd heddiw.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “I blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, yn Gymry ac yn ddysgwyr, y saith yma fu wynebau’r Urdd i bob pwrpas am ddegawdau. Rhyngddynt, maent wedi rhoi dros 200 o flynyddoedd o gefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd, gan greu cyfleoedd a dylanwadu ar genedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru. Mae diolch yr Urdd yn fawr i’r saith arbennig yma am eu hymroddiad arbennig a bydd hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin eleni.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri rhwng 29 Mai – 3 Mehefin. Gellir prynu tocynnau i Eisteddfod yr Urdd, gan gynnwys Gŵyl Triban fydd yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod ar y 2-3 Fehefin ar www.urdd.cymru/eisteddfod