Mae Sioned ar fin cwblhau ei blwyddyn olaf yn astudio cwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac yn cael ei chadw’n brysur ar leoliad gwaith ar y ward geni yn Ysbyty Singleton. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol a llwyddiannus iawn i Sioned, gan iddi gipio’r goron a’r gadair yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr 2021.
Datgelwyd mai Sioned oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw o Wersyll yr Urdd Llangrannog heddiw (dydd Iau, 3 Mehefin). Roedd y beirniad Caryl Lewis yng nghwmni’r tri chystadleuydd terfynol, gyda Huw Griffiths o Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf yn ail a CiaránEynon o Landrillo-yn-Rhos, Conwy yn drydydd.
Yn ôl Caryl Lewis, derbyniwyd dros 70 o geisiadau i’r gystadleuaeth, a’r rheiny yn amrywio o straeon byrion i ymsonau, llythyrau a phenodau cyntaf nofelau. Wrth gyhoeddi mai Sioned oedd Prif Lenor Eisteddfod T, ac yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin Evans, roedd Caryl Lewis yn uchel iawn ei chanmoliaeth o’r gwaith buddugol:
“Mae’r ysgrifennu yn llifo fel bod yr awdur yn diflannu a’r darllenydd yn cael ei gyrchu’n syth at galon y stori,” meddai Caryl Lewis. “Stori am y cyfnod clo yw hi. Stori sy’n gorfodi’r cymeriadau ynddi i wynebu digwyddiad trawmatig o’u gorffennol. Mae’r llinell ola’n drydanol ac yn gadael y darllenydd yn ysu am fwy.”
Noddwyd y seremoni gan Brifysgol Caerdydd.
Gellir dod o hyd i holl ganlyniadau Eisteddfod T hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd
Cynhelir Eisteddfod T drwy gydol yr wythnos hon, 31 Mai - 4 Mehefin. Mae 12,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 120 o gystadlaethau. Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.