Ar 15 Medi 1963, lladdwyd pedwar o blant mewn ffrwydrad terfysgol yn eglwys ddu gyntaf a mwyaf Birmingham, Alabama, a hynny yn ystod yr ymgyrch Hawliau Sifil yn America.
Union 60 mlynedd ar ôl ffrwydrad Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street ym Mirmingham, Alabama mi fydd cynrychiolwyr o’r Urdd yn ymweld â’r rhanbarth er mwyn dangos undod gyda’i chymuned Affricanaidd-Americanaidd.
Wythnos nesaf, bydd 13 o Lysgenhadon yr Urdd a fu’n gyfrifol am Neges Heddwch ac Ewyllys Da Gwrth-hiliaeth 2023 yn cael y cyfle i ddysgu mwy am hanes hawliau sifil cyfoethog Birmingham, Alabama.
Eglura Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Rydym mor falch o’r cyfle i gryfhau ein perthynas gyda’r gymuned Affricanaidd-Americanaidd ym Mirmingham, Alabama a rhoi cyfle i aelodau’r Urdd ddysgu mwy am hanes a digwyddiadau’r rhanbarth.
“Yn gynharach eleni, lluniodd ein pobl ifanc Neges Heddwch ac Ewyllys Da hynod bwerus sy’n taflu’r chwyddwydr ar wrth-hiliaeth, gan nodi’n glir, os yw pobl yn dyst i hiliaeth, bod angen i ni eu ‘Galw. Nhw. Allan.’ Mae’n briodol iawn, felly, ein bod ni’n ymweld â Birmingham ar y dyddiad pwysig hwn yng nghwmni’r myfyrwyr a greodd y neges ddylanwadol hon ac a glywyd a rannwyd gan filoedd ledled y byd.”
Dyma a ddywedodd Sian Morgan Lloyd, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, sy’n mynd gyda’r llysgenhadon ar y daith: “Rydyn ni’n teimlo’n freintiedig i gael teithio i Firmingham, Alabama gydag Urdd Gobaith Cymru, wrth inni ymchwilio mwy i hanes y mudiad Hawliau Sifil, gan ddod i adnabod a meithrin cyfeillion newydd ar hyd y ffordd. Mae’r myfyrwyr, a fu’n gweithio ar y Neges Heddwch eleni, yn frwd dros ddefnyddio’u llais i greu newid. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y daith hon yn eu hysbrydoli a’u hysgogi hyd yn oed yn fwy.”
Bydd y daith yn cynnwys ymweliadau â nifer o adeiladau a sefydliadau hanesyddol ac arwyddocaol eraill a oedd yn hynod bwysig i'r mudiad hawliau sifil, megis Tŷ Rosa Park, Sefydliad Hawliau Sifil Birmingham, Motel AG Gatson a’r Amgueddfa Etifeddiaeth yn ogystal â gweithdy gyda phobl ifanc Birmingham.
Ffurfiwyd perthynas rhwng y Cymry a chymuned Birmingham, Alabama yn dilyn yr ymosodiad terfysgol pan ysgogwyd yr arlunydd o Lansteffan John Petts i ddylunio ffenestr liw ar gyfer yr eglwys. Yn dilyn ymgyrch codi arian gan y Western Mail gwireddwyd y freuddwyd a chyflwynwyd y ffenestr i’r eglwys gan bobl Cymru fel arwydd o gefnogaeth ac undod, ac fe’i hadnabyddir hyd heddiw gan drigolion Birmingham fel y ‘Wales Window’.
Yn 2019 bu i ymweliad swyddogol gan Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd, Kirsty Williams gryfhau’r berthynas hon, ac arwain at bartneriaeth rhwng y mudiad ieuenctid a Phrifysgol Alabama ym Mirmingham ac awydd o’r newydd i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ar ddwy ochr yr Iwerydd ddysgu mwy am ddiwylliannau a thraddodiadau ei gilydd. Ym mis Mehefin eleni, teithiodd Côr yr Efengyl Prifysgol Alabama (UAB) i Gymru i berfformio a dysgu mwy am hanes, iaith a diwylliant ein gwlad.
Mae’r bartneriaeth gyda Birmingham, Alabama yn rhan o Strategaeth Ryngwladol yr Urdd i ymgysylltu phobl ifanc Cymru â phobl ifanc o bob cwr o’r byd. Ers ei sefydlu yn 1922 mae’r Urdd wedi meithrin dros 4 miliwn o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau byw o’n hiaith a’n diwylliant, ynghyd â’r gwerthoedd cyffredinol yr ydym yn eu trysori yng Nghymru.