Rydym yn cynnig tocynnau cyfaill am ddim i Faes yr Eisteddfod. Wrth archebu tocyn hygyrch i’r Maes, bydd cyfle i ti ychwanegu tocyn cyfaill am ddim i dy fasged. Os wyt ti’n archebu dy docyn hygyrch yn y swyddfa docynnau, gellir hawlio tocyn cyfaill yno hefyd. Mae system “loop” yn ein swyddfa docynnau, sy’n cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed wrth archebu tocynnau.
Y Pafiliynau: Coch, gwyn a gwyrdd.
Bydd cystadlaethau yn cael eu cynnal yn yr holl bafiliynau trwy gydol yr wythnos. Bydd stiwardiaid wastad yn bresennol yn y pafiliynau ac ar gael i helpu os oes angen cymorth arnoch chi. Os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bydd stiwardiaid yn gallu eich tywys i sedd sydd yn addas ar eich cyfer. Bydd hefyd lle i’ch cyfaill eistedd gyda chi.
Cyfieithydd BSL
Byddwn yn cynnig gwasanaeth dehongli BSL ar y Maes trwy gydol yr wythnos. Os ydych chi angen y wasanaeth BSL yn ystod yr wythnos, ewch draw i Babell Piws i roi eich cais mewn neu cysylltwch gyda ni ar eisteddfod@urdd.org
Mae Cwmni Theatr Taking Flight hefyd wedi paratoi codiau QR sydd ar hyd prif ardaloedd y Maes. Wrth sganio rhain ar eich ffon, bydd fideo BSL yn arddangos – sy’n egluro beth sy’n mynd ymlaen yn yr ardal benodol honno.
Cŵn Cymorth
Rydym yn croesawu Cŵn Cymorth ym mhob ardal o’r Maes – mae hyn yn cynnwys Cŵn tywys a chŵn lles. Os ydych chi a’ch ci angen sedd yn un o’r pafiliynau, rhowch wybod i un o’r stiwardiaid wrth y drws a gallwn eich tywys at seddi sydd yn addas ar eich cyfer. Mae ardal arbennig wedi’i neilltuo i’ch ci, er mwyn cael seibiant a dŵr - wedi'i leoli rhwng stondin Byw Bywyd a'r Babell Newid Clwt.
Pabell Piws
Ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni, fe welwch chi'r Gofod Diogel Piws, pabell borffor wedi'i lleoli ar yr ochr dde wrth i chi fynd i mewn i’r maes drwy'r brif fynedfa.
Mae'r gofod hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd angen eiliad o lonyddwch, p'un a’i ydych chi'n teimlo bod y maes yn ormod i chi, angen seibiant, gorffwys neu os hoffech chi rannu eich profiad hygyrchedd ar y maes.
Mae Gofod Diogel PIWS wedi'i leoli ar wair gyferbyn â’r cyfleusterau Newid Babi. Mae'n cynnig adnoddau synhwyraidd a soft play, gweithdai, a chyfleoedd i ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad byw.
Gerllaw, fe welwch chi hefyd yr ardal chwarae gynhwysol, a thu hwnt i hynny, gofod tawel pwrpasol ar gyfer adloniant. Gyda'i gilydd, mae'r ardaloedd hyn wedi'u creu i sicrhau bod yr Urdd wirioneddol i bawb.
Nant Caredig
Bydd Iwrt Nant Caredig yn cynnig gofod tawel i unigolion niwroamrywiol neu unrhyw un arall sydd angen gofod tawel i ymlacio, i ffwrdd o brysurdeb y Maes.
Goleuadau Fflachiog
Mae’n debygol y bydd defnydd o oleuadau fflachiog mewn rhai cystadlaethau / digwyddiadau ar hyd y Maes, gan gynnwys Gŵyl Triban ar y penwythnos cyntaf.
Toiledau
Mae toiledau hygyrch ym mhob un o’r blociau toiledau ar y Maes. Mae toilet dibyniaeth uchel gyda hoes hefyd wedi’i leoli wrth y babell Newid Clwt - bydd angen ‘radar key’ er mwyn cael mynediad yma. Gallwch gasglu'r goriad yn y Ganolfan Groeso, o Babell Piws, neu holi un o'r stiwardiaid. Mae toiled hygyrch hefyd wedi'i leoli yn nerbynfa y Pafiliwn Gwyn.
Mae gan yr holl doiledau hygyrch a dibyniaeth uchel sinc gyda dŵr yn rhedeg – nodwch does dim sinc na dŵr yn ciwbicwls toiledau cyffredin, dim ond tu allan i'r toiledau.
Pwyntiau Dŵr
Mae sawl pwynt dwr o amgylch y Maes ble gellir llenwi dy fotel, mae’r pwyntiau yma wedi nodi ar fap swyddogol yr Eisteddfod. Mae croeso i chi lenwi’ch potel yn y lolfa goffi hefyd.
Gwersylla a Charafanau
Mae un cawod hygyrch yn y cae gwersylla ac dau yn y maes carafannau. Mae ardal glanhau (washing up) gyda sinc a dŵr, a barbeciw yma hefyd. Mae'r Maes Carafanau 50m o'r Ganolfan Groeso.
Os oes angen cymorth arnoch chi wrth dadbacio yn y Maes Carafanau, cysylltwch gyda ein Swyddog Hygyrchedd ar Ollie@urdd.org.
Sgwter Symudedd
Gallwch logi sgwter symudedd o Babell Byw Bywyd. Nodwch eu bod yn gyfyngedig. Er bod sgwteri a chadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar y dydd, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu gyda’r cwmni ymlaen llaw am sgwrs, a gellir gwneud hyn drwy ffonio 01286 830 101.
Os ydych yn bwriadu llogi sgwter am y tro cyntaf eleni, dylech gysylltu gyda’r cwmni am gyngor a sgwrs. Os nad ydych yn brofiadol ar sgwter, dylech ddewis cyflymder araf wrth grwydro’r Maes.
Byddwch yn ystyrlon o ymwelwyr eraill bob amser wrth ddefnyddio sgwter o amgylch y Maes.
Mae stondin Byw Bywyd ar agor o 09:00 - 18:00 bob dydd.
Mae modd i ymwelwyr wefru eu sgwter yn y stondin, hyd yn oed os nad ydynt wedi llogi’r sgwter gan gwmni Byw Bywyd.
Y Maes ac Ymwelwyr Anabl
Mae Eisteddfod yr Urdd 2026 wedi'i leoli ar Gae Sioe Mon. Mae ardaloedd o'r Maes yn anwastad. Mae tracfyrddau a phalmant yn mynd o amgylch y Maes. Yn unol â’n hymgyrch i wella ein hygyrchedd, ein nod yw sicrhau bod holl ardaloedd y Maes yn hygyrch a’n addas ar gyfer ein holl ymwelwyr. Os oes angen cymorth arnoch chi ar unrhyw bwynt yn ystod yr wythnos, mae croeso i chi gysylltu ag Ollie, ein swyddog hygyrchedd ar: ollie@urdd.org
Bydd Paratas ar y Maes yn ystod yr wythnos, a bydd stiwardiaid hefyd ar hyd y Maes ac yn barod i’ch helpu. Mae platfform gwylio ar gael yn yr Adlen eleni, ac mae croeso i chi ddefnyddio hwn ar unrhyw bwynt yn ystod yr wythnos.