Dihangfa rhag y byd digidol
Mi fydd pedwerydd Gwersyll yr Urdd, Pentre Ifan yn cynnig lle i 8,000 o bobl ifanc y flwyddyn i ddianc rhag y byd digidol, blaenoriaethu eu lles, ymgysylltu â’r amgylchedd a phrofi ffordd o fyw fwy cynaliadwy. Daw’r datblygiad yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau’r Urdd, pan ddaeth yn amlwg i’r Mudiad fod angen Gwersyll pwrpasol oedd yn cefnogi iechyd a lles pobl ifanc ynghyd â’r amgylchedd.
Ymysg rhai o weithgareddau’r Gwersyll fydd sesiynau gwyllt-grefft, gweithdai ffasiwn gynaliadwy, ioga a meddwlgarwch, serydda, chwedlau wrth y tân a sesiynau natur a thyfu bwyd. Mae cyfleusterau’r Gwersyll yn cynnwys llety en-suite a glampio, ardaloedd arlwyo ac ymolchi sy’n defnyddio pŵer solar, ardd perlysiau, cegin awyr agored a llecynnau lles.
Agoriad swyddogol
Gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Bro Preseli ynghyd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS i’r agoriad swyddogol.
Dywedodd Jeremy Miles: “Rwy'n falch o agor y prosiect unigryw hwn yn swyddogol. Mae’r Urdd wedi gwneud gwaith gwych yn gwrando ac yn creu canolfan sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd, lles pobl ifanc a'r Gymraeg. Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â gwrando ar ddisgyblion a dysgu mewn ffordd sy'n ennyn eu diddordeb. Mae'r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â lles, yn ganolog i'r Cwricwlwm ac yn rhan o addysg pob dysgwr. Rwy'n falch iawn y bydd Pentre Ifan yn helpu dysgwyr i barchu a chysylltu â natur, cefnogi eu hiechyd meddyliol a chorfforol a datblygu perthnasoedd iach â thechnoleg.”
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Un o gyfrinachau tu ôl i lwyddiant yr Urdd yw bod y Mudiad yn gwrando ar yr aelodau er mwyn darparu’r hyn sy’n berthnasol i’w bywydau nhw. Mae datblygu Gwersyll Pentre Ifan yn brawf o hynny - mae’n seiliedig ar weledigaeth ein pobl ifanc.
“Mae’r Urdd wedi ymrwymo i gysylltu ieuenctid Cymru â byd natur a’u grymuso i warchod yr amgylchedd, ac mi fydd Gwersyll Pentre Ifan yn ein galluogi i barhau i gael effaith gadarnhaol ar iechyd emosiynol a iechyd meddwl cenedlaethau’r dyfodol. Mae hwn yn gam arall ymlaen ym mhrosiect datblygu canolfannau preswyl y Mudiad, sy’n ein galluogi i gynyddu dysgu awyr agored a lles wrth gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.”
Datblygwyd Gwersyll Pentre Ifan trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru.