NEWYDDION
Wrth i Gymru aros yn y lefel uchaf o gyfyngiadau, bydd holl ddarpariaeth gymunedol Adran Chwaraeon yr Urdd yn parhau i gael ei ohirio a bydd cofrestru ar gau nes gwybodaeth bellach. Gallwch dal cofrestru eich diddordeb ar gyfer clybiau isod. Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer sesiynau, bydd eich taliad yn cario drosodd pan fydd darpariaeth yn ail-gychwyn.
Er hyn, rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd digidol i aelodau, a gellir gweld mwy o wybodaeth ar wefan yr Urdd maes o law.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus, ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd i’r gymuned yn fuan.