Taith Cwpan y Byd Rygbi Merched 2025
Chwilio am rhywbeth i'ch plentyn ei wneud dros yr haf?
Os ydi eich plentyn chi yn 12 – 18 oed, beth am ddod efo ni i wylio gêm grŵp Cwpan Rygbi'r Byd, lle fydd tîm merched rygbi Cymru yn chwarae.
Taith De Cymru
Tîm rygbi merched Cymru yn herio Fiji, Alban yn herio Canada, yn Parc Sandy, Exeter ar 6 Medi 2025.
Bydd bws yn cychwyn o Llanishen, Caerdydd ac yn teithio ar hyd y M5, i Exeter, ac yn dychwelyd ar ôl y gêm.
Taith Gogledd Cymru
Tîm rygbi merched Cymru yn herio Canada, Alban yn herio Fiji, yn Stadiwm Cymunedol Salford, 30ain o Awst
Bydd bws yn cychwyn o Bangor gyda man pigo yn Bae Colwyn yna yn teithio i Stadiwm Salford, ac yn dychwelyd ar ôl y gêm.
Sicrhewch le i'ch plentyn cyn gynted â phosib drwy ddilyn y ddolen isod.
Am fwy o wybodaeth neu os oes unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni: chwaraeon@urdd.org | 02922 405345