Ysbrydoli . Cefnogi . Ymbweru

 

Y Gynhadledd Genedlaethol ddeuddydd #FelMerch hon fydd cynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf Cymru a fydd yn darparu cyfleoedd i ferched a menywod i ddod ynghyd i gael eu hysbrydoli a’u ymbweru.

Bydd y gynhadledd yn cael ei harwain gan Lowri Morgan, y gyflwynwraig deledu a rhedwraig marathon eithafol. Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed Cenedlaethol Merched Cymru, a Hollie Arnold MBE, sydd wedi cystadlu pedair gwaith yn y Gemau Paralympaidd fydd ein prif siaradwyr.

Byddwn hefyd ym mhresenoldeb arbenigwyr yn eu meysydd yn cyflwyno amrywiaeth o weithdai yn ymwneud ag iechyd a lles, delwedd y corff, bwyta’n iach, chwaraeon anabledd, cydraddoldeb a gwytnwch a llawer mwy.

 

- Rhaglen Cynhadledd Genedlaethol #FelMerch 2022 -

Partneriaid a Noddwyr