Mae ystod eang o gyrsiau ar gael ar gyfer disgyblion uwchradd. Gall hyn amrywio o gyrsiau pontio neu ymwybyddiaeth iaith i waith tîm neu Fagloriaeth Gymraeg. Mae’r rhestr yn hirfaith. Mae’r holl gyrsiau a ddarperir wedi eu cynllunio i gynnwys ein cwricwlwm arbennig sydd yn sicrhau nid yn unig bod unigolion yn mwynhau’r gweithgareddau sydd ar gael, ond hefyd yn meithrin sgiliau allweddol. Trwy gyflwyno disgyblion i awyrgylch sydd yn ddiarth i’w awyrgylch cysurus arferol, maent yn derbyn y cyfle i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol sydd yn rhan annatod wrth ddatblygu unigolion cyflawn.