Gwyliau i bobl ifanc sy'n chwilio am antur yn un o leoliadau gwefreiddiol gogledd Cymru
Wedi ei lleoli ar lannau Llyn Tegid, mae gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel.
Anturio yn y Gymraeg ar ei orau! Os ydi dringo creigiau uchel yn y bore, SUP’s yn y prynhawn a cherdded i gopa un o fynyddoedd Eryri i wylio’r haul yn machlud yn swnio fel hwyl, dyma'r gwyliau i chi.
Y bore wedyn fe allwch fod yn profi gweithgareddau fel cerdded afon, sialensiau'r cwrs rhaffau cyn croesi’r llyn.
Gyda’r niferoedd wedi eu cyfyngu, sicrhewch eich lle mor fuan â phosibl. Bydd yr anturiaethau hyn i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd 9 a 10. Cymraeg yw iaith y cwrs.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
Dydd Llun 20 Gorffennaf tan ddydd Gwener 24 Gorffennaf 2026
NEU
Dydd Llun 27 tan ddydd Iau 30 Gorffennaf 2026
Pa mor hir mae'n para?
5 diwrnod, 4 nososn
NEU
4 diwrnod, 3 noson
Pris
£319 (cwrs 4 noson) ar gyfer aelodau'r Urdd.
NEU
£269 (cwrs 3 noson) ar gyfer aelodau'r Urdd.
Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Blaendal o £50 - Cynllun talu rhandaliadau ar gael.
Bws
Gellir darparu bws yn ol y galw am gost ychwanegol. Ffurflen archebu bws yn fyw mis Mawrth ymlaen
Llety
Bydd criw Anturdd i’r Eithaf yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol.