Beth yw'r cyfle?
Rydym yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig rhwng 16 a 25 oed sydd eisiau profiad yn gweithio yn y maes awyr agored neu gofal plant i ddod i weithio gyda ni am gyfnod dros yr haf!
Ble?
Mae cyfleoedd ar gael yng Ngwersyll Llangrannog, Gwersyll Glan-llyn a Gwersyll Caerdydd - dewiswch y lleoliad gorau i chi.
Pryd?
Mae dyddiadau amrywiol ar gael yn ystod y gwyliau haf, yn amrywio o gyfnodau o 2 noson i 4 noson - dewsiwch y dyddiadau gorau i chi.
Sut alla i ymgeisio?
Rydyn ni ar hyn o bryd yn trefnu tywydd braf ar gyfer gwersylloedd haf 2020! Dewch nôl yn fuan i wybod mwy am gyfleoedd SWOGio 2020.