Nod y cwrs yw datblygu hyder unigolion wrth drin a thrafod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Yn ystod y cwrs mi fydd disgyblion yn cael gwerthfawrogi’r iaith ar ei gorau fel iaith fyw, mewn awyrgylch naturiol a hwyliog. Dyma ddysgu trwy weithgaredd ar ei orau. Mi fydd gan eich Swyddog Cymunedol lleol gyfnodau i'w gynnig i chi ddod ar gyfnodau Rhanbarthol. Cysylltwch â nhw am argaeledd.