DYDDIAD: 6-8 o Ebrill 2020
GWEITHGAREDDAU
Gan ddefnyddio arfordir anhygoel Ceredigion bydd cyfle gwych i brofi weithgareddau awyr agored yn cynnwys arfordira, ceufadu, syrffio, a rafftio. Gyda’r nos, beth well na thaith i Langrannog a barbeciw ar y traeth? Bydd hefyd cyfle i fwynhau sesiynau byrddio eira a dringo yn y Gwersyll.
LLETY A BWYD
Bydd pedwar pryd blasus yn cael eu paratoi ar dy gyfer, beth bynnag fo dy anghenion dietegol. Bydd cyfle i ymlacio gyda dy ffrindiau wedi diwrnod llawn hwyl cyn cysgu mewn ystafelloedd en-suite.
BWS
Caiff bws ei drefnu i gasglu plant o fannau penodol ledled Cymru am uchafswm o £20.
DIOGELWCH
Bydd gofal proffesiynol ar y safle 24 awr y dydd.
PRIS
£115 – yn cynnwys yr holl weithgareddau, llety a bwyd.
DIDDORDEB?
Rydym yn derbyn ceisiadau gan unigolion neu grŵp o ffrindiau. Archebwch drwy gwblhau’r ffurflen a’i anfon yn ôl atom yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Gofynnir am flaendal o 50% o’r tâl Gwersyll a’r tâl bws llawn. Anfonir gwybodaeth berthnasol ymlaen wedi derbyn eich cais am le ar y gwersyll.
Nol