Eisteddfod Tu Allan i Gymru

 

Mae'r Eisteddfod yn agored i unrhyw aelod sydd yn byw neu yn derbyn ei a/haddysg Tu Allan i Gymru.

Bydd angen cofrestru i gystadlu cyn 14 Chwefror 2022.

Dyddiad Eisteddfod Tu Allan i Gymru: 23 Mawrth 2022 yn Ysgol Gymraeg Llundain

Os hoffech ragor o fanylion am yr Eisteddfod, mae croeso i chi gysylltu gyda Steffan Prys: steffanprys@urdd.org

 

Ymuno â Phwyllgor Tu Allan i Gymru?

Mae Pwyllgor rhanbarth hefyd wedi ei sefydlu yn Llundain i ymgymryd â’r gwaith o drefnu'r Eisteddfod i gystadleuwyr sy’n byw tu allan i Gymru. Os hoffech fod yn rhan ohono, cysylltwch gyda Steffan ar y manylion uchod.