Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 yn Sir Gaerfyrddin, a chyhoeddwyd ym Mhwyllgor Gwaith cyntaf yr Eisteddfod ym mis Ionawr 2019, mai lleoliad yr Eisteddfod yw Llanymddyfri.
Dyma fydd wythfed ymweliad Eisteddfod yr Urdd â Sir Gaerfyrddin a’r tro cyntaf erioed i’r Eisteddfod ymweld ag ardal Llanymddyfri a rhan honno o Sir Gâr. Yr ymweliad cyntaf â’r sir oedd yn nhre Caerfyrddin yn 1935 a’r ymweliadau mwyaf diweddar oedd Eisteddfod Sir Gâr yn 2007 ac Eisteddfod Cwm Gwendraeth 1989.
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yw Carys Edwards. Is-gadeiryddion y Pwyllgor Gwaith yw Peter Harries, Lowri Thomas a Sioned Page Jones gyda Gethin Thomas yn Drysorydd yr Eisteddfod. Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith yw Beti Wyn James.
Gall unrhywun noddi gystadleuaeth neu dlws - ebostiwch Nesta ar nesta@urdd.org am fwy o fanylion.