Canlyniadau Creu Gwefan 2013

71. Creu Gwefan Bl. 6 ac iau (Unigol neu Grŵp)

 

Sylwadau:

Yr oedd y categori yma yn anodd iawn i'w beirniadu - nifer fawr o gystadleuwyr o safon uchel iawn. 

Roedd hi'n amlwg fod pawb wedi datblygu dealltwriaeth dda o'r themau ac wedi mwynhau'r broses o gyfleu eu syniadau gydag amrywiaeth.
Defnyddiwyd ffotograffiaeth yn effeithiol a dyluniadau i ddenu'r llygaid, creu diddordeb a chadw sylw'r gwyliwr. Da iawn bawb.

Cystadleuaeth agos iawn oedd hwn, ond mae'r tri buddugol - er yn wahanol iawn - wedi dangos dealltwriaeth o’r thema, cyfarwyddo artistig da, 

a defnydd o teipograffi sensitif. Hefyd, roedd angen sicrhau fod y gwybodaeth yn ddarllenadwy a chrwydo'r wefan yn un naturiol a chyfeillgar iawn.

 

-------------------------------------------

1af
-------------------------------------------

Manylion Bob Aelod y Grwp: James Thomas

Adran / Aelwyd: Maenclochog
Cylch: Clunderwen
Rhanbarth: Penfro
Nifer yn y Grwp: 1
Cyfeiriad y wefan: http://james2002th.wix.com/patrymauramgylchfyd
Disgrifiad / Cysylltiad â'r Thema : Patrymau'r Amgylchfyd

 

Sylwadau:

Yr oedd gwefan James yn un glan, syml ac yn hawdd i symud o gwmpas o un darn i'r llall, gyda thrawsnewidiadau da. 

Roedd yna ddefnydd da o ffotograffiaeth safanol a teipograffi perthnasol. Yr oeddwn i hefyd yn hoffi'r malwaden bach oedd yn cripiad ar dop y dewislen! 

Llongyfyrchiadau James. 

 

-------------------------------------------
2ail
-------------------------------------------
Manylion Bob Aelod y Grwp: Amy Geach, Aled Thistlewood, Caleb Wysoski, Sam Gwynne Carroll, Steffan Gwynne Carroll, Caleb Wylie, William Wicks, Ieuan Evans, Theo Cabango, Samuel Peake
Adran / Aelwyd: Ysgol Pencae
Cylch: Gorllewin Caerdydd
Rhanbarth: Caerdydd a'r Fro
Nifer yn y Grwp: 10
Cyfeiriad y wefan: http://www.j2e.com/pencae/admin/cartref
Disgrifiad / Cysylltiad â'r Thema : Dehongliad criw o flwyddyn 6 o batrymau amgylchedd eu hardal nhw.

Sylwadau:
Mae gwefan Ysgol Pencae yn hwyl, cyfeillgar ac yn lliwgar iawn. Mae'n hawdd crwydro o gwmpas y wefan gyda dyluniad da a chynnwys diddorol. 

Da iawn Amy, Aled, Caleb, Sam, Steffan, Caleb, William, Ieuan, Theo a Samuel.

 

-------------------------------------------
3ydd
-------------------------------------------

Manylion Bob Aelod y Grwp: Georgia Mason, Katie Crook, Jude Norris, Kieran Lastella ac Ella Jones
Adran / Aelwyd: Cynradd
Cylch: Aeron
Rhanbarth: Ceredigion
Nifer yn y Grwp: 5
Cyfeiriad y wefan: http://patrymaucymru.weebly.com/
Disgrifiad / Cysylltiad â'r Thema : 3 tudalen - 1 Patrymau Wlad, 1 Patrymau Afonydd. 3. Patrymau Tywydd

 

Sylwadau:

Mae Georgia a'i tîm wedi dangos ymchwil da a chynhwysfawr tra'n cyfleu nifer o wahanol mathau o batrymau'r amgylchfyd. 

Mae'r ddewislen yn glir ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Pwynt bach byddai edrych ar strwythur y tudalennau i gryfhau'r gwahaniaeth rhwng teitlau 

a'r gwybodaeth a sut mae'r lluniau yn eistedd. Ymdrech da iawn Georgia, Katie, Jude, Kieran ac Ella.

 

-------------------------------------------

 

Adran#02

 

72. Creu Gwefan Bl. 7, 8 a 9 (Unigol neu Grŵp)


Sylwadau:

Siomedig oedd gweld mae dim ond un cystadleuwr oedd wedi ceisio yn y categori yma.
Er dweud hynny, mae Joey wedi creu gwefan teilwng o'r wobr cyntaf. Gwefan glan gyda dewislen syml, clir ac yn hawdd mynd o un rhan o'r wefan i'r llall. 

Yr oeddwn yn hoffi'r defnydd o logo ac amrywiaeth o ffotograffiaeth. Efallai byddai wedi bod yn dda fod wedi gallu clicio ar rai or lluniau i’w gweld nhw'n fwy o faint? 

Rhywbeth i ddatblygu efallai. Llongyfarchiadau mawr i ti Joey.

 

-------------------------------------------
1af
-------------------------------------------

Manylion Bob Aelod y Grwp: Joey De Sousa
Adran / Aelwyd: Penweddig
Cylch: Aberystwyth
Rhanbarth: Ceredigion
Nifer yn y Grwp: 1
Cyfeiriad y wefan: http://natur.ptara.com/index.html
Disgrifiad / Cysylltiad â'r Thema : Rhyfeddodau natur Aberystwyth