Dyma Eisteddfod i ti, o'r tŷ.

Eisteddfod T ydi Eisteddfod yr Urdd mewn fformat rhithiol sy'n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ledled Cymru a thu hwnt i gystadlu o'u cartrefi.

Eisteddfod T – Diolch!

Hoffai holl dîm Eisteddfod T fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi eleni. O’r 12,000 fu’n cystadlu, i’r hyfforddwyr, athrawon a’r golygyddion ac i bob cyfeilydd a’r unigolion dewr fu’n gyfrifol am recordio a chofrestru’r gwaith a’r fideos.

Bu i gyfraniad pob un sicrhau llwyddiant yr ŵyl rithiol fwyaf yn hanes yr Urdd.

Mae’n llongyfarchion yn mynd i bawb fu’n fuddugol yn ystod yr wythnos ryfeddol o gystadlu a braf oedd rhannu sylwadau’r beirniaid a’r canlyniadau holl bwysig efo’r cystadleuwyr a phawb adref. Gobeithio i ti fwynhau’r arlwy o’r stiwdio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ar y teledu, radio neu’r platfformau amrywiol ar y cyfyngau cymdeithasol.

 Arolwg Survey Monkey

Cwblha’r arolwg yma er mwyn i ni gasglu dy adborth di am Eisteddfod T. Bydd pob sylw yn cael ei werthfawrogi pan fyddwn yn gwerthuso’r digwyddiad.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/EisteddfodT21

 

 

 

Prosiect Plethu

Fel rhan o Eisteddfod T eleni, mae grwpiau o bobl ifanc ar draws Cymru wedi bod yn cydweithio ac yn arbrofi gyda'r celfyddydau i greu perfformiadau newydd a chyffrous, gan gyfuno arddulliau a diwylliannau gwahanol.

 

 

Gwylio!
 

Epilog Eisteddfod T

Yn arbennig ar gyfer Eisteddfod T, mae pump artist cyfoes wedi mynd ati i greu fersiwn newydd o'r Emyn Hwyrol  (Nefol Dad Mae Eto'n Nosi), cân fydd yn adnabyddus i bawb sydd wedi aros dros nos yng Ngwersyll yr Urdd, ac wedi canu hon cyn mynd i'r gwely.

Gwylio!
 

Bwyd, Bwyd, Bwyd!

Os ydych chi'n hiraethu am gael swper blasus ar Faes Eisteddfod yr Urdd, neu â dim syniad beth i'w goginio i de, wel peidiwch â phoeni, gwyliwch ein fideos cam wrth gam yng nghwmni Caffi Ffika a Geoff o Gegin Caribî.

Gwylio!