Beth yw Cariad@Urdd?
Mi fyddwn yn dathlu diwrnod Cariad@Urdd, ar ddydd Llun 25 Ionawr 2021 i gyd-fynd â Diwrnod Santes Dwynwen, ac i gofnodi 99 mlynedd ers i Syr Ifan ab Owen Edwards gyhoeddi sefydlu Urdd Gobaith Cymru yng nghylchgrawn Cymru’r Plant.
Sut i gymryd rhan?
Gan ddefnyddio #CaruUrdd ar y cyfryngau cymdeithasol, rydyn ni eisiau clywed gan bobl ar draws Cymru a thu hwnt yn sôn am eu profiadau diddorol ac atgofion arbennig o gymryd rhan gyda'r Urdd!
Recordia dy hun ar ffôn neu ipad gan ddechrau’r frawddeg gyda:
“Dwi’n caru’r Urdd oherwydd.........”
Efallai dy fod wedi cael hwyl yn cystadlu mewn Eisteddfod, ymweld ag un o’r gwersylloedd, mynd ar un o’r teithiau amrywiol neu gystadlu mewn twrnamaint chwaraeon?
Efallai ar drip yr Urdd y gwnes di gwrdd â’th ddarpar ŵr neu wraig? Neu hyd yn oed ar faes Eisteddfod yr Urdd y cwrddaist ag arwr am y tro cyntaf!
Rydym am glywed dy brofiadau personol di â’r Urdd!
Cofia ddefnyddio #CaruUrdd i rannu fideo neu atgof gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol i ymuno yn y sgwrs â phobl ar draws Cymru.
Sut i gefnogi?
Gan fod gweithgareddau pwyllgorau apêl yn anffodus wedi gorfod dod i ben am y tro, dyma gyfle i ailgydio yn y bwrlwm eisteddfodol yn rhithiol, a chyfrannu at Eisteddfodau’r dyfodol ar yr un pryd.
Gallwch gyfrannu trwy dudalennau ‘Just Giving’ yr Eisteddfodau neu trwy decstio 5URDD, 10URDD neu 20URDD i gyfrannu £5, £10 neu £20 i 70085.
Diolch!