Ymunwch â Chefnogwch Clwb Cyfeillion Eisteddfod yr Urdd

Y bwriad yw casglu cynifer o aelodau cyn diwedd y flwyddyn er mwyn penderfynu gwerth y gwobrau ariannol byddwn yn eu rhannu’n fisol. Y nod cychwynnol yw denu o leiaf 100 o unigolion i’r clwb cyn 31 Rhagfyr 2021.

Bydd pob aelod yn cytuno i gyfrannu £5 y mis i gronfa’r clwb cyfeillion drwy Fandad Archeb Sefydlo misol – a hynny ar y 10fed diwrnod o’r mis. Yna, cyhoeddir enwau deiliaid y rhifau buddugol fydd yn derbyn gwobr ariannol ar ddiwedd y mis.

Tynnir y rhifau cyntaf ddiwedd mis Ionawr 2022.

Gellir cwblhau a dychwelyd ffurflen aelodaeth (sydd yn ddwyieithog) ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod:

ffurflen gofrestru clwb cyfeillion eisteddfod yr urdd