Bute Energy ac Urdd Gobaith Cymru yn Ysbrydoli Amgylcheddwyr Ifanc trwy gynnal Gweithdai Gwesty Gwenyn a Phryfed mewn Ysgolion Cynradd Castell-nedd Port Talbot
Mae Bute Energy ac Urdd Gobaith Cymru wedi cynnal cyfres greadigol ac ymarferol o weithdai mewn ysgolion cynradd yn ardal Castell-nedd Port Talbot, gan annog dysgwyr ifanc i ymgysylltu â natur trwy adeiladu gwestai pryfed a gwenyn.
Mae'r bartneriaeth unigryw yn cyfuno ymrwymiad Bute Energy i fynd i'r afael â newid hinsawdd ag Urdd Gobaith Cymru a’u blaenoriaeth o rymuso pobl ifanc trwy brofiadau cyfrwng Cymraeg. Nod y gweithdai oedd dysgu'r disgyblion am rôl hanfodol pryfed, gwenyn, a pheillwyr mewn ecosystemau iach - a sut y gall gwneud rhai pethau bychain ddiogelu bioamrywiaeth a'r amgylchedd.
Plant 7-11 mlwydd oed oedd yn cymryd rhan yn y sesiynau, a oedd yn cyfuno gweithgareddau adeiladu ymarferol ag addysg amgylcheddol dan arweiniad Arweinydd Addysg Bute Energy - Catrin Leader. Ymhob gweithdy, adeiladodd y disgyblion gynefinoedd bach gan ddefnyddio deunyddiau naturiol ac ailgylchadwy, a’u bwriad oedd darparu mannau diogel i bryfed a gwenyn i ffynnu mewn mannau gwyrdd. Mae nifer o ysgolion wedi cymryd rhan yn y gweithdai, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las, Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm-Nedd, Ysgol Gynradd Ynysfach, Ysgol Gynradd Penafan ac Ysgol Gynradd Croeserw. Daeth gweithwyr Bute Energy, a gwirfoddolwyr lleol o grŵp Friends of Margam, at ei gilydd i blannu blodau a phlanhigion yn y Garddorfa cyn dechrau’r Eisteddfod hefyd. Noddir y Garddorfa unwaith eto gan y cwmni ynni adnewyddadwy Cymreig – Bute Energy.
Dywedodd Catrin Leader, Arweinydd Addysg yn Bute Energy:
"Rydyn ni’n ddiolchgar i weithio gyda'r Urdd eto eleni fel noddwyr y Garddorfa ar Faes yr Eisteddfod. Rydyn ni wedi cymryd cam pellach eleni wrth ymuno â’n partneriaid Bee1 yng Nghastell-nedd i ddangos sut y gallwn fabwysiadu dull cyfannol o fynd i’r afael â newid hinsawdd. "
"Mae gan ynni gwyrdd, bioamrywiaeth a chydberthynas cymunedol ran i'w chwarae yn ein cenhadaeth i ofalu am ein planed yn well. Ond yr hyn sy’n allweddol ar gyfer y dyfodol yw cynnig cyfleoedd a gwybodaeth allweddol i genedlaethau ifanc i barhau â'r gwaith da sy'n digwydd yma yng Nghymru. Mae rhaglen addysg Bute Energy wedi bod yn llwyddiant ers iddi ddechrau dros ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n fraint i ni allu cynnig ein harbenigedd i ysgolion lleol, trwy gyfrwng y Gymraeg, ar y cyd â’r Urdd a Bee1.”
Ychwanegodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yn Urdd Gobaith Cymru:
"Fel noddwr pwysig i’r Eisteddfod, rydym yn hynod o gyffrous ac yn falch bod Bute wedi bod yn bartner allweddol yn ystod y prosiect hwn. Mae'r prosiect yn dod ag addysg amgylcheddol yn fyw mewn ffordd greadigol ac ystyrlon. Mae cydweithio â Bute Energy yn ein galluogi i ymgysylltu â phlant ar draws Cymru gan rannu negeseuon o gynaliadwyedd, wrth feithrin cysylltiad dwfn â'u hamgylchedd naturiol - a hyn i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg."
Cafodd y gweithdai eu cynnal mewn ysgolion cyfagos i Eisteddfod yr Urdd, sydd eleni yn cael ei chynnal ym Mharc Margam o 26-31 Mai. Yn ogystal â hyrwyddo ffyrdd y gallwn ni fel cymuned a chymdeithas ehangach fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae'r fenter yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru trwy ddatblygu creadigrwydd, dinasyddiaeth, ac ymwybyddiaeth amgylcheddol y disgyblion.
Mae’r gwestai pryfed a gwenyn a grëwyd yn ystod y sesiynau yn adlewyrchiad o gyfraniad y plant i gynaliadwyedd - ac o bŵer addysg a chydweithio wrth fynd ati i adeiladu Cymru fwy gwyrdd. Mae modd gweld y gwestai pryfed a gwenyn yn ardal Garddorfa yr Eisteddfod eleni, ac ar ôl yr ŵyl, byddan nhw’n mynd yn ôl i’r ysgolion a’u hadeiladodd.