Rydym yn cynnig tocynnau cyfaill am ddim i Faes yr Eisteddfod. Wrth archebu tocyn hygyrch i’r Maes, bydd cyfle i ti ychwanegu tocyn cyfaill am ddim i dy fasged. Os wyt ti’n archebu dy docyn hygyrch yn y swyddfa docynnau, gellir hawlio tocyn cyfaill yno hefyd. Mae sustem “loop” yn ein swyddfa docynnau, sy’n cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed wrth archebu tocynnau.
Y Pafiliynau: Coch, gwyn a gwyrdd.
Bydd cystadlaethau yn cael eu cynnal yn yr holl bafiliynau trwy gydol yr wythnos. Bydd stiwardiaid wastad yn bresennol yn y pafiliynau ac ar gael i helpu os oes angen cymorth arnoch chi. Os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bydd stiwardiaid yn gallu eich tywys i sedd sydd yn addas ar eich cyfer. Bydd hefyd lle i’ch cyfaill eistedd gyda chi.
Cyfieithydd BSL
Byddwn yn cynnig gwasanaeth dehongli BSL ar y Maes trwy gydol yr wythnos. Os ydych chi angen y wasanaeth BSL neu unrhyw gymorth yn ystod yr wythnos, dewch draw i’r Ganolfan Groeso at Ollie, ein swyddog hygyrchedd i roi eich cais mewn neu ewch draw i'n swyddfa ymholiadau.
Mae Cwmni Theatr Taking Flight hefyd wedi paratoi codiau QR sydd ar hyd prif ardaloedd y Maes. Wrth sganio rhain ar eich ffon, bydd fideo BSL yn arddangos – sy’n egluro beth sy’n mynd ymlaen yn yr ardal benodol honno.
Cŵn Cymorth
Rydym yn croesawu Cŵn Cymorth ym mhob ardal o’r Maes – mae hyn yn cynnwys Cŵn tywys a chŵn lles. Os ydych chi a’ch ci angen sedd yn un o’r pafiliynau, rhowch wybod i un o’r stiwardiaid wrth y drws a gallwn eich tywys at seddi sydd yn addas ar eich cyfer. Mae ardal arbennig wedi’i neilltuo i’ch ci, er mwyn cael seibiant a dŵr.
Nant Caredig
Bydd Iwrt Nant Caredig yn cynnig gofod tawel i unigolion niwroamrywiol neu unrhyw un arall sydd angen gofod tawel i ymlacio, i ffwrdd o brysurdeb y Maes.
Goleuadau Fflachiog
Mae’n debygol y bydd defnydd o oleuadau fflachiog mewn rhai cystadlaethau / digwyddiadau ar hyd y Maes, gan gynnwys Gŵyl Triban ar ddiwedd yr wythnos.
Toiledau
Mae toiledau hygyrch ym mhob un o’r blociau toiledau ar y Maes. Mae toilet dibyniaeth uchel gyda hoes hefyd wedi’i leoli tu ol i'r pafiliwn gwyn – bydd angen ‘radar key’ er mwyn cael mynediad yma. Gallwch gasglu'r goriad yn y fynedfa hygyrch, gan Ollie ein swyddog hygyrchedd, neu holi un o'r stiwardiaid. Mae gan yr holl doiledau hygyrch a dibyniaeth uchel sinc gyda dŵr yn rhedeg – nodwch does dim sinc na dŵr yn y toiledau cyffredin.
Pwyntiau Dŵr
Mae sawl pwynt dwr o amgylch y Maes ble gellir llenwi dy fotel, mae’r pwyntiau yma wedi nodi ar fap swyddogol yr Eisteddfod. Mae croeso i chi lenwi’ch potel yn y lolfa goffi hefyd.
Gwersylla a Charafanau
Mae un cawod hygyrch yn y cae gwersylla ac dau yn y maes carafannau. Mae ardal glanhau (washing up) gyda sinc a dŵr, a barbeciw yma hefyd.
Sgwter Symudedd
Gallwch logi sgwter symudedd o'r fynedfa hygyrch. Nodwch eu bod yn gyfyngedig. Bydd angen i chi dalu blaendal o £10, ac mae’r llogi’n costio £2 yr awr.
Y Maes ac Ymwelwyr Anabl
Mae Eisteddfod yr Urdd 2025 wedi'i leoli ym Mharc Gwledig Margam. Mae ardaloedd o'r Maes yn anwastad. Mae tracfyrddau a phalmant yn mynd o amgylch y Maes. Yn unol â’n hymgyrch i wella ein hygyrchedd, ein nod yw sicrhau bod holl ardaloedd y Maes yn hygyrch a’n addas ar gyfer ein holl ymwelwyr. Os oes angen cymorth arnoch chi ar unrhyw bwynt yn ystod yr wythnos, mae croeso i chi gysylltu ag Ollie, ein swyddog hygyrchedd ar: ollie@urdd.org
Bydd St Johns Ambulance ar y Maes yn ystod yr wythnos, a bydd stiwardiaid hefyd ar hyd y Maes ac yn barod i’ch helpu. Mae platfform gwylio ar gael yn yr Adlen eleni, ac mae croeso i chi ddefnyddio hwn ar unrhyw bwynt yn ystod yr wythnos.