Beth yw Yr Awr Fawr?

Mae'r Awr Fawr yn gyfle i blant cynradd ddod at ei gilydd mewn awyrgylch diogel dros Zoom gyda staff cyfeillgar yr Urdd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda ffrindiau hen a newydd.

Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?

Oes mae angen i chi fod yn aelod o'r Urdd i gymryd rhan yn Yr Awr Fawr. Ond peidiwch â phoeni gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma.

Faint yw'r sesiynau?

Mae holl sesiynau Yr Awr Fawr am ddim i aelodau'r Urdd.

Calendr

Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!

Eisteddfod T

Nos Fawrth

1 Mehefin 2021

5:00 -6:00y.h

Ymuna gyda ni ar gyfer gweithgaredd arbennig Eisteddfod T!

Cofrestru