Beth yw Yr Awr Fawr (D)?

Mae'r Awr Fawr (D) yn gyfle i ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith oed cynradd ddod at ei gilydd i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a diogel tu allan ir dosbarth. Bydd staff cyfeillgar yr Urdd yn croesawu plant i'r sesiynau ar Zoom am awr o weithgaredd hwyl gyda ffrindiau hen a newydd!

Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?

O fis Hydref, bydd sesiynau Awr Fawr ar gyfer aelodau'r Urdd yn unig. Mae croeso mawr i bawb nad ydyn nhw'n aelodau trwy sesiynau mis Medi i roi blas i chi o'r sesiynau, ac i roi amser i chi benderfynu a ydych chi am ymuno fel aelod. Gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma.

Faint yw'r sesiynau?

Mae holl sesiynau Yr Awr Fawr am ddim i aelodau'r Urdd.

Calendr

Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!

Parti Eisteddfod T

Nos Lun

24 Mai 2021

4:30 -5:30y.p

Ymuna gyda ni am barti i ddathlu Eisteddfod T 2021!

Cofrestru