Jambori: Ar Goll yng Nglan-llyn

Gorffennaf 7, 2021

Ydych chi wedi gweld Mistar Urdd? Mae o’n hwyr i’r Jambori! Dewch ar daith gyda Siani Sionc ar y 7fed o Orffennaf i chwilio amdano yng Ngwersyll yr Urdd Glan Llyn. Bydd parti mawr a llond gwlad o ganu a dawnsio.

Dyma'r Jambori ar ei newydd wedd. Ymunwch i ganu rhai o glasuron Cymraeg gan gynnwys: Mr Hapus Ydw I, Aderyn Melyn a Lawr ar Lan y Mor.

Mae yna ddwy fersiwn o’r cynhyrchiad ar gael: fersiwn iaith gyntaf a fersiwn wedi ei addasu i ddysgwyr.

Pecyn yn cynnwys:

  • 11 cân gyda fersiwn MP3 i lawrlwytho a thaflen geiriau i’w ymarfer cyn y diwrnod
  • Taflenni lliwio i'w wneud o flaen llaw i chi gael edrych 'mlaen at y diwrnod
  • Chwilair Jambori
  • Fideo o'r DDAU Jambori i'w gadw am byth! 

Prynwch gopi o'r Jambori gan glicio isod.

Adnodd FFANTASTIC er mwyn cefnogi prosiectau Siarter iaith a Cymraeg Campus! 

Bydd dolen yn cael ei anfon i chi ar y 6ed o Orffennaf gyda'r manylion i fewngofnodi.

Bydd bob ysgol sy'n prynu'r jambori hefyd â siawns i ennill ymweliad gan Siani Sionc i'r ysgol yn nhymor yr Hydref.

 

 

Cwestiynau?

Beth os nad oes gen i gyfri Paypal?

 

 

Mae modd defnyddio yr opsiwn guest check out os nad oes cyfrif PayPal. 

Oes modd derbyn anfoneb  yn lle?

Dyma’r cyfarwyddiadau i gael Anfoneb:

  1. Clicio ar y botwm ‘Prynwch Nawr’ ar y wefan www.urdd.cymru/jambori
  2. Anwybyddu botwm ‘Paypal’  OND llenwi’ch manylion ar rhan 2 y ffurflen
  3. Ar y sgrin talu – dewis opsiwn ‘Trosglwyddiad Banc’
  4. Clicio ar ‘Cwblhau Archeb’

 Byddwch yn derbyn e-bost gyda’r camau nesaf i dalu.

Faint o'r gloch fydd y Jambori

Unrhyw amser sy'n eich siwtio chi ar y 7fed o Orffennaf