Teitl y Swydd: Arweinydd Prosiectau TG
Math o gytundeb: Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 6: £35,912 - £41,906 y flwyddyn
Lleoliad: Un o brif swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad Cau: 1af o Fedi am 10:00
Dyddiad Cyfweld: Wythnos cychwyn 8fed o Fedi
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Ydych chi’n angerddol am dechnoleg ac yn mwynhau arwain prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol? Dyma gyfle arbennig i ymuno â thîm TG deinamig mewn rôl allweddol wrth lunio dyfodol digidol yr Urdd.
Fel Arweinydd Prosiectau TG, byddwch yn gyfrifol am arwain, cynllunio a chyflawni prosiectau digidol ar draws y sefydliad. Byddwch yn cydweithio’n agos ag adrannau TG ac adrannau eraill i sicrhau bod datblygiadau digidol yn gwella systemau, gwasanaethau ac effeithlonrwydd.
Mae’r rôl hon yn gyfuniad o strategaeth, arloesi ac ymarfer - gan gynnig cyfle i ddylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i gefnogi gwaith eang a phwrpasol yr Urdd. Byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn blaenoriaethu ceisiadau, hwyluso cyfathrebu rhwng timau, a sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n effeithiol ac ar amser.
Os ydych chi’n unigolyn technegol ac ymarferol, gyda brwdfrydedd dros drawsnewid digidol, ac yn mwynhau cydweithio ag eraill i greu newid cadarnhaol – rydym eisiau clywed gennych chi.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled James, Pennaeth Technoleg Gwybodaeth ar aledjames@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org
