Teitl y Swydd: Cydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon, Ynys Môn ac Eryri
Math o gytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 2: £23,582 - £25,506 y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Bangor
Dyddiad Cau: 18fed Mai am hanner nos
Dyddiad Cyfweld: w/c 26 o Fai
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd a chlybiau chwaraeon o fewn ysgolion a’r gymuned, drwy gyfrwng y Gymraeg gan weithio tuag at dargedau heriol yr adran. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am fanylion pellach ar brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau y rôl.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled Jones, Rheolwr Chwaraeon Talaith y Gogledd a Gorllewin Cymru ar 01248 672 105 / 07976003315 neu aled@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org