Swyddog Ieuenctid Blaenau Gwent a Mynwy

Teitl y Swydd:  Swyddog Ieuenctid Blaenau Gwent a Mynwy

Math o gytundeb:  Tymor penodol, hyd at ddiwedd Mawrth 2026 i ddechrau

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)  

Graddfa:  Gweithredol 3: £25,690 - £28,006 y flwyddyn

Lleoliad:  i’w drafod 

 

Dyddiad Cau: 30 Gorffennaf 2025

Dyddiad Cyfweld: 14 Awst 2025

 

Swydd Ddisgrifiad:   Cliciwch yma

 

 

Y Swydd

Beth am ynumo a thîm egnïol Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau amrywiol yn eu hardal leol a thu hwnt trwy gyfrwng y Gymraeg a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r adran yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ac yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Angharad Wyn Jones, Rheolwr De Cymru, Adran Ieuenctid a Chymuned  ar angharadwyn@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org