Teitl y Swydd: Swyddog Ieuenctid Bro Morgannwg
Math o gytundeb: Tymor penodol, hyd at ddiwedd Mawrth 2026 i ddechrau
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 3: £25,690 - £28,006 y flwyddyn
Lleoliad: Ysgol Bro Morgannwg
Dyddiad Cau: 31ain o Orffennaf 2025
Dyddiad Cyfweld: 15fed o Awst 2025
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Beth am ymuno a thîm egnïol Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau amrywiol yn eu hardal leol a thu hwnt trwy gyfrwng y Gymraeg a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r adran yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ac yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Angharad Wyn Jones, Rheolwr De Cymru, Adran Ieuenctid a Chymuned ar angharadwyn@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org
