Gwyliau 5 diwrnod yn y brifddinas

Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.

Dros gyfnod o dri diwrnod byddwch yn mwynhau gweithgareddau fel mynd ar y cwch cyflym o gwmpas y Bae, ymweld ag atyniadau fel Techniquest, a chwarae bowlio deg a noson yn y sinema. Dyma enghraifft o amserlen o un o gyrsiau preswyl Gwersyll Caerdydd i roi syniad i chi.

Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. 

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-7 / plant 8 - 12 oed. Does dim rhaid gallu siarad Cymraeg i fynychu.

Dyddiad

20 - 24 Gorffennaf 2026

Pa mor hir mae'n para?

5 diwrnod, 4 noson

Pris

£250 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

£50 o flaendal - Cynllun talu rhandaliadau ar gael.

Gellir trefnu cludiant trên am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.