Cynllun newydd i greu arweinwyr, beirniaid a hyfforddwyr y dyfodol

Eleni am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod yr Urdd a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru yn cyd-weithio ar gynllun mentora newydd i feithrin arweinwyr, beirniaid a hyfforddwyr y dyfodol.

Bydd cystadleuwyr buddugol yn y categori oedran 19-25, Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael eu gwahodd i ddiwrnod o hyfforddiant er mwyn dysgu mwy am y sgil o gadw llwyfan i redeg yn llyfn fel arweinydd, beth i edrych amdano fel beirniaid ac arfer da er mwyn hyfforddi sêr y dyfodol. Bydd cyfle hefyd i unigolion eraill dros 18 oed ymgeisio am bum lle pellach ar y cynllun.

Y tri fydd yn arwain y diwrnod hyfforddi yn Aberystwyth yn yr hydref fydd Anni Llŷn, Huw Foulkes a Gavin Ashcroft, sy’n brofiadol iawn yn y tair elfen o’r cynllun mentora.

Yn dilyn y diwrnod gydag Anni, Huw a Gavin, bydd y criw ifanc yn bwrw eu prentisiaeth mewn eisteddfodau lleol o amgylch Cymru, cyn symud ymlaen i gysgodi arweinydd, beirniaid neu hyfforddwr profiadol yn eisteddfodau cylch yr Urdd.

Bydd modd i unigolion eraill wneud cais am y pump lle rhydd sydd ar y cwrs trwy ffurflen gais.

Gwneud cais

Mae modd i unigolion 19-25 oed eraill wneud cais am y 5 lle rhydd sydd ar y cwrs trwy lenwi'r ffurflen gais hon.

Ffurflen gais