Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 8-11, neu blynyddoedd ysgol 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
22 Gorffennaf 2022
Pa mor hir mae'n para?
2 noson
Pris
£140 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Gwyliwch am flas o wersyll haf yn Llangrannog!
Enghraifft o ddiwrnod
Amserlen | Gweithgaredd |
---|---|
Brecwast | Brecwast i bawb - bacwn, ffa pob, tôst, jam a mwy - eich dewis chi |
Bore | Bore o hedfan i lawr y wifren zip a gwibio i fyny'r wal abseil a'r wal ddringo |
Cinio | Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn! |
Prynhawn | Prynhawn ar gefn y beiciau modur, trampolin, a'r ceffylau |
Te | Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta |
Ar ôl te | Ychydig o nofio |
Swper | Cinio rhost neu bolognese i'r anturiaethwyr llwglyd ar ôl diwrnod prysur |
Ar ôl swper | Cerdded i lawr i lan y môr Llangrannog am noson braf o hufen iâ a gemau ar y traeth |
*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.
Llety
Ystafelloedd en suite yn cysgu rhwng 4 i 6 o bobl.
Cyfleusterau
Gallwch ymlacio gyda diod poeth, cymdeithasu, neu wylio'r teledu yn un o’n naw lolfa. Mae cysylltiad wi-fi ar gael am ddim.
Bwyd
Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi gan gogyddion y gwersyll â'r pwyslais ar baratoi bwyd iachus. Defnyddir cynnyrch lleol a Chymreig lle bynnag y bo hynny’n bosibl a defnyddir cyflenwyr dibynadwy sydd yn darparu cynnyrch o'r ansawdd uchaf.
Galeri



























