Pedwar diwrnod, pedair gwobr gwych!

Dyma dy gyfle di i ennill un o bedwar arhosiad byr yng ngwersylloedd yr Urdd drwy gystadlu yng Ngwobrau Gwersylloedd yr Urdd 2024! Rhwng 8 Ionawr a 11 Ionawr, byddwn yn cynnig gwobr dyddiol sy'n gyfle i bedwar unigolyn ennill gwyliau byr yn un o Wersylloedd yr Urdd:

Mae pob gwobr ar gael am un diwrnod yn unig, felly i gael cyfle i ennill, rhaid llenwi’r ffurflen isod a dilyn tudalen y gwersyll ar o leiaf un platfform cyfryngau cymdeithasol cyn hanner nos ar y diwrnod y cyhoeddir y wobr. Er enghraifft, os hoffech chi gymryd rhan yn y raffl ar gyfer gwobr dydd Llun, rhaid i chi gyflwyno'ch cais erbyn hanner nos. Bydd unrhyw gais sy'n cael ei anfon ar ôl hanner nos yn cael ei gynnwys yn raffl y diwrnod canlynol. Os cyflwynwch eich cais unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cau olaf (00:00 ar ddydd Gwener, 12 Ionawr), ni fydd eich cais yn cael ei gyfrif. Gallwch ddarllen gweddill y rheolau yma.

Mae croeso i chi wneud cais ar gyfer y pedair gwobr gwych drwy lenwi’r ffurflen yn ddyddiol!

Ffurflen gais:

Nodyn pwysig: drwy lenwi'r ffurflen gais isod, rydych yn cytuno i Urdd Gobaith Cymru gadw eich manylion cyswllt ac i'ch diweddaru gyda gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau all fod o ddiddordeb i chi. Mae ein Polisi Preifatrwydd ar gael i chi ddarllen yma.


 
Invalid entry