Mae Urdd Gobaith Cymru yn disgwyl i gystadleuwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr ymrwymo i ysbryd o chwarae teg yn holl weithgareddau’r Mudiad.

 

Disgwylir i bob cangen ac aelod, sydd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau Eisteddfodau yr Urdd, i:

 

  • ddangos caredigrwydd, parch a chwrteisi tuag at bawb
  • gyrraedd yr Eisteddfod yn brydlon, gan fod yn barod i gystadlu yn ôl y gofyn
  • gyfathrebu yn gwrtais gyda aelod o staff yr Urdd os oes gennych unrhyw bryderon
  • barchu ysgolion, cystadleuwyr, athrawon, gwirfoddolwyr ac hyfforddwyr eraill
  • barchu penderfyniadau’r beirniaid
  • annog aelodau i ddilyn y rheolau
  • annog pob aelod i beidio â gwahaniaethu ar sail crefydd, hil, rhyw, dosbarth cymdeithasol neu ddiffyg gallu.
  • ymddwyn yn gyfrifol, drwy beidio defnyddio neu ddioddef geiriau neu ymddygiad sarhaus, amharchus neu amhriodol.
  • sicrhau fod holl aelodau’r gangen yn ymwybodol o’r Cod Cyfeillgarwch

Disgwylir i bawb sy’n mynychu Eisteddfodau’r Urdd ddilyn y Cod Cyfeillgarwch uchod. Cedwir yr hawl, gan aelodau staff yr Urdd, i ddiarddel neu gwrthod aelodau neu ganghennau fydd ddim yn cydymffurfio, rhag cystadlu.

Os oes gennych ymholiad ar ôl cystadlu, yna mae ffurflen pwrpasol ar gael ar y dudalen hon.

Rhaid i’r ymholiad ddod drwy arweinydd y gangen o fewn 5 diwrnod ar ôl cystadlu.

Byddwch yn derbyn ymateb i’r ymholiad, gan yr adran Eisteddfod a’r celfyddydau o fewn 5 diwrnod gwaith.